Gem Gothig ger y môr
Adeiladwyd yr adeilad rhestredig Gradd II hardd hwn, gyda’i leoliad arfordirol anhygoel, yn wreiddiol yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg ar orchymyn Hywel ap Gruffudd ap Cynan. Er llawer o waith ailadeiladu mae llawer o’r adeilad gwreiddiol wedi goroesi. Heddiw, fe’i hystyrir yn un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth Othig Seisnig Gynnar yn y wlad gyda’r porth deheuol addurnedig yn nodwedd arbennig.
Dangosir yr eglwys ar fapiau cynnar fel eglwys Sant Bodfan er mai erbyn hyn fe’i hadwaenir fel eglwys y Santes Fair. Yn wir, mae’r eglwys wedi’i chysegru i’r ddau sant. Ar y llawr gogleddol mae dwy garreg ddiddorol, wedi’u harysgrifio yn Lladin a chredir eu bod yn dyddio o’r bumed neu’r chweched ganrif. Fe’i hadwaenir fel Cerrig Calixtus, fe’u darganfuwyd ar dir gerllaw ac fe’u hadleolwyd i’r eglwys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw eu henwau o’r arysgrif, sef CAELIXTUS MONEDO REGI sydd ar un o’r cerrig a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel pont droed ar fferm gyfagos. Mae’r cyfieithiad Lladin yn golygu ‘carreg Caelestis Monedorix’.
Eglwys ar agor fel arfer
Mynediad am Ddim
Ar yr A496 i ogledd Abermaw
Llanaber 100 lath
Ar y brif ffordd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH599180 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124