Etifeddiaeth y Swydd Efrog Geltaidd
Yn Eglwys Llanaelhaearn, ger Caernarfon, wedi’i gosod mewn wal yn y transept gogleddol, y mae Maen Aliortus. Cafodd ei ddatgladdu mewn cae cyfagos a adwaenir fel Gardd-y-Saint a chredir bod y maen yn dyddio yn ôl i ddiwedd y 5ed ganrif neu ddechrau’r 6ed ganrif. Mae arysgrif Lladin ar y maen sy’n darllen ‘ALIORTUS ELMETIACO HIC IACIT’, sy’n cyfieithu fel ‘Mae Aliortus o Elmet yn gorwedd yma’.
Mae’n bosib mai teyrnas Geltaidd annibynnol oedd tiriogaeth Elmet - rhan o Hen Ogledd Prydain. Mae’n bosib bod y deyrnas wedi’i chanoli o amgylch dinas bresennol Leeds yng ngorllewin Swydd Efrog, gan ymestyn i’r de tuag at ddinas Sheffield. Dyfalu ydym ni ynghylch union leoliad y safle, ond yn sicr iawn mae cysylltiad agos iawn rhwng ‘Cymry’ gogledd Prydain a Chymry Gwynedd.
Am gyfnod, trefnodd teyrnas Elmet wrthymosodiad grymus yn erbyn y Saeson oedd yn ceisio meddiannu eu tir. Yn y diwedd, fe’u trechwyd gan y Sacsoniaid o Northumbria dan arweiniad Edwin, eu brenin, oddeutu 620.
Mynediad trwy'r flwyddyn
Mynediad am Ddim
Mae'r pentref yn ymyl lle mae'r B4419 yn ymuno gyda'r A499
Bangor - 21 milltir, Pwllheli - 9 milltir
Safle bws yn y pentref
Llwybr beic cyfagos i'r A499
Mynediad cadiar olwyn yn bosib at y garreg yn y fynwent trwy ddilyn llwybr troed yr eglwys
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 387448 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123