Canfyddwch yr arysgrifau Lladin ar gerrig beddi canol oesol sy’n llawn dirgelwch
Saif y cerrig hynod hyn yn eglwys plwyf Sant Tudclud, Penmachno. Mae pump yno i gyd, ac mae un yn dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif a honnir mai carreg fedd Iorwerth Drwyndwn yw hi – tad Llywelyn Fawr, tywysog enwog Gwynedd. Mae’r pedair carreg fedd arall yn dod o gyfnod llawer cynharach a chredir eu bod yn dyddio yn ôl i’r 5ed a’r 6ed ganrif.
Mae’r arysgrif Lladin ar un o’r cerrig hyn yn darllen ‘CANTIORI HIC IACIT VENEDOTIS CIVE FVIT CONSOBRINO MAGLI MAGISTRAT’, sy’n cyfieithu yn ‘Mae Cantiorix, dinesydd Venedos, cefnder Maglos yr Ynad, yn gorwedd yma’. Venedos yw’r gair Celtaidd am Wynedd ac efallai bod hwn yn cynrychioli ymgais a wnaed gan y bobl leol i gyfieithu’r enw i’r Lladin.
Mae’r arysgrif ar un o’r cerrig eraill yn darllen ‘CARAVSIVS HIC IACIT IN HOC CONGERIES LAPIDVM’, sef ‘Mae Carausius yn gorwedd yma yn y pentwr hwn o gerrig’. Canfuwyd y garreg hon, sydd â symbol Chi-Rho Cristnogol arni hefyd, yn y safle a adwaenir fel Beddau Gwŷr Ardudwy.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Ar agor rhan fwyaf o ddiwrnodau
B4406 4 milltir i dde Betws y Coed
Betws y Coed - 4 milltir
Gorsaf bws wrth yr ysgol yn Stryd Llewelyn
Ar lwybr beics
Cerrig tu mewn i'r eglwys
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 789506 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 123