‘Yr eneth Gymreig heb Feibl’
Mae’r daith gerdded hyfryd hon drwy galon Eryri yn dechrau ym mhentref Llanfihangel-y-Pennant dan lwyfandir mawreddog Cader Idris ac yn teithio 25 milltir tua’r tir at Lyn Tegid a thref Y Bala. Mae’n coffáu stori Mari Jones. Ym 1800, pan oedd yn eneth 15 oed, cerddodd Mari yn droednoeth i’r Bala ac yn ôl i brynu Beibl gan offeiriad o’r enw Thomas Charles. Daeth yr hanes yn boblogaidd ar draws y byd a byth ers hynny mae Mari wedi cael ei hadnabod fel ’yr eneth Gymreig heb Feibl’.
Ganed Mari yn 1784 ac roedd ei bywyd cynnar yn llawn tlodi. Bu farw tad Mari pan oedd yn bedair oed ac fe’i magwyd gan ei mam weddw. O oedran ifanc, roedd wedi bod yn rhan o’r symudiad Methodistaidd arloesol a oedd wedi dechrau ymsefydlu yn yr ardal a chafodd ei derbyn i’r seiat Fethodistaidd (neu gyfarfod cymdeithas) leol, pan oedd ond wyth oed.
Gallai Mari gael mynediad at Feibl a gadwyd mewn ffermdy gerllaw, ond ei breuddwyd oedd bod yn berchen ar ei Beibl ei hun. Cynilodd bob ceiniog a allai am flynyddoedd lawer i gasglu’r 17 swllt a oedd eu hangen – swm anferthol o arian i eneth dlawd fel Mari. Bu Mari fyw hyd nes yr oedd yn 80 oed a dywedir ei bod wedi darllen ei Beibl o glawr i glawr bedair gwaith yn ystod ei hoes.
Dywedir bod Thomas Charles wedi cael ei ysbrydoli gymaint gan ffydd Mari nes y cafodd ei ysgogi i greu’r British and Foreign Bible Society ym 1804. Nod y Gymdeithas yw cyhoeddi a dosbarthu Beiblau fforddiadwy trwy Gymru a thu hwnt.
O'r A487 Dolgellau/Machynlleth yn Minffordd cymerwch y B4405 am Abergynolwyn – troi i'r dde am Castell y Bere, a dilyn yr arwyddion am Llanfihangel-y-Pennant.
Abermaw - 19 milltir, Blaenau Ffestiniog - 10 miltir
Gorsaf bws yn Abergynolwyn wrth y Railway Inn - 2 filltir o gychwyn y daith. Gorsaf bws Stryd Fawr y Bala i orffen.
Llwybr NCN rhif 8 yn agos i Llanfihangel y Pennant
Mae'r taith gyfan yn 28 milltir a gellir ei lawrlwytho ar wefan Cymdeithas y Beibl
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - (Cychwyn y daith yn Llanfihangel y Pennant: SH 671089, Ty Mari Jones (Ty’n y Ddol): SH 673 095, diwedd y daith (Bala): SH 928361 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124, 125