Ewch i grwydro ar hyd y llwybr cylchol godidog hwn uwchben Aber Mawddach
Mae’r llwybr enwog hwn, sydd brin yn 3 milltir o hyd, yn llwyddo i gynnwys cyfoeth o olygfeydd godidog mewn un daith gerdded gylchol fer. Wedi’i leoli uwchben Aber Mawddach, mae’r golygfeydd tua’r arfordir yn helaeth ac yn drawiadol. I’r gogledd ceir yr Wyddfa a’r Moelwynion, ac i’r gorllewin mae mynyddoedd garw’r Rhinogydd gyda Chader Idris yn sefyll yn union i’r de.
Mae’r daith ei hun yn cynnwys llwybr gwastad wedi’i dorri i mewn i lethrau serth Dyffryn Mawddach. Yma, defnyddir cyn dramffordd a adeiladwyd i wasanaethu cloddfa aur Y Foel sydd gerllaw, fel llwybr cerdded. Honnir bod y llwybr yn dilyn cwrs ffrwd Rufeinig, cwrs dŵr wedi’i gloddio yn y ddaear, ond mae archeolegwyr yn amau hyn.
Mae’r llwybr yn dilyn lefel y gyfuchlin 800 troedfedd ac nid yw’n cynnwys llawer o ddringo na cherdded i lawr. Mae’n daith gerdded ddelfrydol ar gyfer y teulu cyfan, er fe ddylai unrhyw un sy’n dioddef o fertigo fod yn wyliadwrus mewn rhai mannau penodol. Mae’r golygfeydd yn werth eu gweld.
O ganol Dolgellau ewch dros y pont fawr a troi i'r de am y Bala. Ar ôl tua 500 medr troi i'r chwith gyferbyn â'r Llyfrgell a fyny'r allt am Llanfachreth. Ar ôl tua 2 filltir, yn nhop y bryn mae maes parcio Saith Groesffordd i'ch chwith ar y gyffordd.
Abermaw - 11 milltir, Blaenau Ffestiniog - 23 milltir
Gorsaf bws agosaf yw Llanfachreth
Yn ymyl llwybr NCN Dolgellau
Mae'r llwybr cyfan yn 3 milltir gyda daith ar gael i'w llawrlwytho o wefan Parc Cenedlaethol Eryri
Esgidiau cerdded a map yn angenrheidiol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Cychwyn/ diwedd y daith yn Maes Parcio Llanfachreth: SH 746 212 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124