‘Fel sêr yn y ffurfafen’
Credir bod cymuned Gristnogol wedi’i sefydlu ar y safle hwn ers o leiaf yr wythfed ganrif pan ddengys cofnodion y rhoddodd Elfod, Esgob Bangor, dir i’r eglwys yma. Yn wreiddiol, byddai’r safle wedi bod yn gartref i fynachlog a chanolfan ddysg yr Eglwys Geltaidd gynnar. Nid oes tystiolaeth o’r anheddiad gwreiddiol wedi goroesi.
Mewn ysgrifau o’r 12fed ganrif gynnar, dywedir fod Gwynedd ‘yn frith o eglwysi gwyngalchog fel sêr yn y ffurfafen’. Parhaodd yr eglwys yn Abergele i fod yn wyngalchog ymhell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r adeilad presennol, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, wedi’i adeiladu o galchfaen a thywodfaen lleol. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu’n helaeth dros y blynyddoedd ond mae llawer o nodweddion yr adeilad gwreiddiol wedi goroesi – gan gynnwys rhan isaf y groglen, pedestal y bedyddfaen, cist dderw a slab carreg mawr. Yn ogystal, mae darnau o ffenestr Jesse o’r bedwaredd ganrif ar ddeg y tybiwyd ei bod wedi’i dinistrio yn ystod y Rhyfel Cartref, wedi’u hailosod yn ffenestr y festri.
Saif carreg benyd y tu allan i’r eglwys. Yma disgwylid i bechaduriaid sefyll fel penyd wedi’u gwisgo mewn gwyn ac ymbilio i’r gynulleidfa am drugaredd. Yn ogystal, mae cofeb yn y fynwent i’r 33 o bobl a laddwyd yn nhrychineb rheilffordd Abergele yn 1868.
Dilyn yr A458 i Abergele oddi ar yr A55
Abergele - 1 milltir
Stryd y Farchnad neu Water Street
Yn ymyl llwybr arfordir NCN 5
Ymwelwch â'r wefan
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 945776 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 116