Dilynwch ôl-troed y pererinion i safle a ffynnon sanctaidd
Dyma eglwys ryfeddol mewn plwyf ynysig ar lwybr y pererinion sy’n arwain at Ynys Enlli. Mae Eglwys Beuno Sant yn dyddio’n bennaf yn ôl i ddiwedd y 15fed ganrif neu i ddechrau’r 16eg ganrif ond fe saif ar sylfeini safle llawer cynharach.
Yn ôl y sôn roedd Beuno Sant yn un o ddisgynyddion tywysogion Powys a dywedwyd ei fod wedi sefydlu clas, mynachlog a chanolfan dysg Geltaidd, ar dir a roddwyd iddo gan Cadfan, Brenin Gwynedd a’i wraig Afandreg Ddu. Y dyddiad traddodiadol a nodir ar gyfer sefydlu’r clas yw 630.
Heddiw, mae’r eglwys yn arddangos sawl enghraifft odidog o bensaernïaeth Perpendicwlar. Yn eu mysg mae to pren hyfryd, seddau côr a sgrin y grog wedi’u cerfio sy’n dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif, pulpud siâp octagon gyda phaneli a llwybr pont faril. Mae’r eglwys 16eg ganrif yn cynnwys croes garreg arysgrifenedig a adwaenir fel Maen Beuno a chredir ei bod yn dyddio yn ôl i’r 8fed ganrif. Yn y tiroedd drws nesaf i’r eglwys saif deial haul a chredir ei fod yn dyddio yn ôl i’r 10fed ganrif. Fodd bynnag, mae’n ddigon posib bod y maen hir y mae wedi’i gerfio ohono yn llawer hŷn. Fe’i defnyddiwyd fel pont droed ar draws ffrwd Glan-Môr gerllaw yn Aberdesach am sawl blwyddyn cyn iddo gael ei ddychwelyd i’r eglwys ym 1930.
Nepell i ffwrdd o’r eglwys saif ffynnon sanctaidd Beuno Sant, sy’n dyddio yn ôl i’r canol oesoedd. Mae’r ffynnon yn cynnwys basn carreg gyda wal a meinciau o’i hamgylch. Ers amser maith, dyweder y gall ei dyfroedd iachau sawl anhwylder.
Efallai y bydd cerddwyr yn dymuno ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru o’r safle hwn gan ei fod wedi’i leoli dafliad carreg o’r eglwys.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Pasg - Hydref 10.00am – 5.00pm - eglwys trwy apwyntiad. Ffynnon ar agor o hyd
Mynediad am Ddim
Mae'r pentref oddi ar y ffordd osgoi A499 Caernarfon i Bwllhelli. Mae'r ffynnon i'r de o'r pentref ac yn gyfagos i'r prif ffordd.
Bangor - 19 milltir, Pwllheli - 11 milltir
Gorsaf bws tu allan i Swyddfa'r Post
Llwybr beicio yn ymyl yr A499
Mynediad cadair olwyn drwy'r drws llydan (wedi ei arwyddo)
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn (Eglwys): SH 414497 (Ffynnon): SH413494 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115