Ewch am dro ar y lein gul hon - a’i chwaer fach
Neidiwch ar Reilffordd Dreftadaeth Ucheldir Cymru ym Mhorthmadog. Gwirfoddolwyr sy’n ei gynnal, ac mae’n rhedeg ar stêm am ¾ milltir i Pen-y-Mount sy’n daith o oddeutu awr. Datblygwyd y math hwn o reilffordd lein gul dwy droedfedd yng Ngwynedd i gludo llechi o’r chwareli i borthladdoedd megis Porthmadog. Allforiwyd y cargo llechi a’r syniad o reilffyrdd lein gul i bedwar ban byd.
Mae’r trên yn stopio yn yr amgueddfa. Fan hyn, fe gewch wybod mwy am reilffyrdd bychan Porthmadog a’r amryw ffyrdd i’w rhedeg – ceffyl, disgyrchiant, stêm, disel a thrydan. Does dim llaesu dwylo yn yr amgueddfa, cewch eistedd wrth y llyw mewn locomotif gwthio, a darganfod pam ei fod yn cael ei yrru wysg ei ochr. Peidiwch â cholli’r cyfle i deithio ar y rheilffordd fach o amgylch cytiau injans a’r coedydd. Dim ond 7 modfedd o led yw’r rheiliau, ac mae’r daith yn cynnwys twnnel, pont a thraphont!
Mae siop lyfrau arbenigol yma hefyd er mwyn i’r sawl sy’n dymuno gwybod mwy am y rheilffyrdd lein gul enwog brynu deunydd darllen. Cofiwch alw heibio’r ystafell de cyn i chi adael. Gallwch hefyd fynd ar daith wefreiddiol ar Reilffordd Eryri drwy ddal trên ym Mhorthmadog a theithio i Gaernarfon.
Yn gyffredinol mis Ebrill - Hydref - gwiriwch y wefan
Oddi ar yr A487 gyferbyn â gorsaf y brif linell
Porthmadog - 100 llath
Gorsaf bws tu allan i'r orsaf dren prif linell
Ar Lwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 8
Caniateir cwn, cerbydau gyda mynediad anabl
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 567391 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124