Cartref Amgueddfa Forwrol Llŷn yw hen eglwys Santes Fair, Nefyn. Bu adeilad crefyddol ar y safle hwn ers y 6edG a chaiff Nefyn ei chysylltu â santes Nyfain - a aned oddeutu 458,merch Brychan, Brenin Brycheiniog, er nad oes sicrwydd.
Sylwch mor uchel yw tir y fynwent o’i gymharu â’r ffordd a’r cae o’i chwmpas – tystiolaeth o’r cyrff dirifedi gafodd eu claddu yma dros y canrifoedd. Mae llawer o gapteiniaid llongau a’u teuluoedd yn gorwedd yma.
Gwyddom i Gerallt Gymro aros yn y priordy y tu ôl i’r eglwys ar y nos Sadwrn cyn Sul y Blodau yn 1188 gan bregethu yma drannoeth. Aeth i chwilota yn Llyfrgell (scriptorium) y mynaich a dod o hyd i lawysgrif goll am y cymeriad chwedlonol, Myrddin.
Cafodd eglwys newydd Nefyn, eglwys Dewi Sant ei hadeiladu yn 1904. Doedd rhai o bobl fawr y dre ddim yn hoffi cerdded i lawr yno drwy’r strydoedd culion, tywyll! Bu Ysgol Sul yma wedyn tan ganol y ganrif ddiwetha cyn cau yn derfynol bryd hynny.
Yng nghanol yr 1970au, â’r adeilad yn dadfeilio, daeth criw bach ynghyd â’r bwriad o agor Amgueddfa Forwrol a Chanolfan Astudio yma. Cafodd y freuddwyd ei gwireddu o fewn amser byr. Cawsant gasgliad diddorol o greiriau a chyfoeth o wybodaeth gan bobl leol a, bu’r Amgueddfa’n atyniad poblogaidd iawn.
Yn 2013/4 cafodd yr adeilad ei adnewyddu gan fanteisio i gynnwys llwyfan perfformio, caffi, siop ac arddangosfa newydd sbon.Cewch ddysgu am hannes cynnar y cylch a’r dre, yn cynnwys twrneimant Edward I ac ymosodiad Owain Glyndŵr. Mae hanes diwydiant yr ardal yma hefyd: pysgota penwaig, chwareli ithfaen y cylch, adeiladu llongau hwylio a stoirau am rhai o’r teuluoedd morwrol amlycaf.
Oriau agor yn amrywio - gwiriwch y wefan neu ffoniwch o flaen llaw.
Mynediad am Ddim
O’r Groes yng nghanol y dref yn Nefyn ewch ar hyd Stryd y Plas ac yna ar hyd Stryd y Llan, neu o’r B4417 (Pistyll – Nefyn) trowch i Stryd y Felin) wrth adael y dref am Pistyll.
Bws Arfordirol O Ddrws i Ddrws ar gael Ebrill - Hydref. £1 yn unig. Gweler linc wefan isod.