Digon i’w wneud, digon o hanes
Ewch am dro ar hyd Cei Conwy a mwynhewch olygfeydd syfrdanol dros yr harbwr ac Aber yr Afon Conwy. I’r gogledd mae pâr o dyrrau Castell Deganwy, castell a adeiladwyd gan y Cymry. Fe’i dinistriwyd gan Llywelyn ap Gruffydd i rwystro Edward I rhag gwneud defnydd o’r safle yn ystod y Rhyfel olaf am Annibyniaeth i Gymru.
Ym mhen draw gorllewinol y cei, ymwelwch â Thŷ Lleiaf Gwledydd Prydain. Bydd gwraig mewn gwisg Gymreig draddodiadol yn eich cyfarch i’r atyniad hyfryd hwn, sydd ddim ond 10 troedfedd yw uchder. Am dâl bychan cewch fynd i mewn i ddwy ystafell gyfyng ble bu’r preswylydd olaf, pysgotwr 6 troedfedd 3 modfedd yn byw.
Cerddwch wrth eich pwysau ar hyd ochr Muriau Tref Conwy, y muriau mwyaf cyflawn o holl furiau’r canol oesoedd yn Ewrop, a gafodd eu codi gan Edward I. Wedi mynd heibio’r tafarn y Liverpool Arms, fe welwch fynedfa isaf y pâr o dyrrau a fu’n galluogi nwyddau i gael eu dwyn o’r cei i mewn i’r dref. Cerddwch ymlaen i Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy i ddysgu am draddodiad 200 mlynedd o gribinio’r danteithfwyd enwog hwn o wely’r aber.
Mae llawer o ddigwyddiadau’n digwydd ar y Cei gan gynnwys Gŵyl Fwyd Conwy. Mae’r dathliad o fwyd, cerddoriaeth a’r celfyddydau sy’n digwydd bob mis Hydref, wedi dod yn ddyddiad pwysig iawn yng nghalendr gogledd Cymru.
Ar y pen dwyreiniol o’r cei mae pontydd Telford a Stephenson yn gorwedd o’ch blaen. Yn sefyll yn uchel uwch eich pen mae castell Edward I.
Conwy o'r A55 neu B5106.
Gorsaf Conwy
Gwasanaeth bws rheolaidd
Ar Lwybr Beicio Gogledd Cymru - Llwybr 5
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 775775 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans:115