Pontydd Cyfochrog sy’n croesi’r afon i Gonwy
Gadawodd Thomas Telford ei ôl ar ogledd Cymru. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth pawb i wybod am ei brosiectau peirianneg mawreddog, yn cynnwys Pont y Borth a oedd yn symbol o arloesiad diwydiannol.
Cwblhaodd Telford y gwaith o adeiladu Pont Grog Conwy yn 1826, ynghyd â’r tyrau sy’n adlais o dyrau Castell Conwy. Daeth hwn yn lle’r fferi a ddefnyddiwyd i groesi Afon Conwy, ac roedd yn rhan o ddyluniad mawr brif gamp Telford – sef y ffordd epig o Lundain i Gaergybi. Roedd rhaid angori rhodenni crog (o haearn gyr) yn y graig ble saif Castell Conwy.
Ers diwedd 50au’r ganrif ddiwethaf, nid yw’r bont ar agor i draffig; fodd bynnag, mae’n cynnig pont droed hynod o gain i gerdded i Gonwy dan gysgod y Castell. Pam na wnewch chi bicio i’r tollty sydd ar fynedfa gerdded y bont? Mae’r tu mewn yn edrych yr union yr un fath ag yr oedd yn ystod yr oes Fictoraidd.
Caiff ymwelwyr hefyd y fraint o weld yr enghraifft orau sydd wedi goroesi o bont diwbaidd wedi’i gwneud o haearn gyr. Mae pont reilffordd Conwy yn rhedeg cyfochrog â’r bont. Fe’i hagorwyd yn 1849, er eu bod wedi gorffen ei hadeiladu'r flwyddyn flaenorol. Robert Stephenson a William Fairbairn oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r dyluniad. Roedd y bont hon yn gweithredu fel prawf arloesol i bont reilffordd diwbaidd arall Stephenson, a oedd hefyd yn hynod ond yn fwy ei maint– sef pont Britannia sy’n croesi’r Fenai. Roedd gwir werth i holl waith Fairbairn wrth brototeipio dyluniad y bont – oni bai am y colofnau ychwanegol oddi tani, nid yw’r bont wedi newid dim ac mae’n parhau i gario trenau o Gyffordd Llandudno i Gonwy hyd heddiw.
A547 Conwy i Gyffordd Llandudno
Conwy - ¼ milltir; Cyffordd Llandudno - ½ milltir
Safle bws tu allan i Gastell Conwy
Ar lwybr beicio Cenedlaethol 5
O Gastell Conwy cerddwch i'r gorllewin tuag at yr afon
Caniateir cwn ar y bont Grog, dim mynediad i bont y rheilffordd
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 784774 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115