Bryngaer Oes yr Haearn nodedig gyda golygfeydd gwych dros orllewin Eryri a Penrhyn Llŷn
Mae hon yn fryngaer fach, ond eto’n un drawiadol o Oes yr Haearn, sydd i’r gogledd o Langybi. Mae ganddi dair llinell o amddiffyn i’r gogledd a’r gorllewin, gan gynnwys cloddiau a ffosydd a rhai waliau cerrig sych. Yn gyffredin gyda bryngaerau eraill, ni adeiladwyd y llinellau amddiffyn ar yr un pryd. Mae’n debygol fod newidiadau wedi bod yn ystod y canrifoedd cyntaf y cafodd ei defnyddio, ac hefyd yn llawer diweddarach yn yr canol oesoedd.
Cloddiwyd yr ardal fewnol yn 1939 ac mae’r waliau wedi eu cadw’n well yma, ond nid yw pob un o’r strwythurau yn yr ardal fewnol yn gynhanesyddol.
Mae’r rhagfur mewnol wedi ei wneud yn gyfangwbl o gerrig a chredir ei fod yn dyddio o’r canol oesoedd. Mae’n betryal ei siâp gyda chorneli crwn. Mae agoriad ar yr ochr ddwyreiniol yn rhoi mynediad drwy’r amddiffyn mewnol a’r ail linell amddiffynnol.
Er ei fod yn safle llawer llai, mae Carn Pentyrch yn rhannu’r un nodweddion â bryngaerau mwy yn yr ardal er enghraifft Garn Boduan, Carn Fadryn a Thre’r Ceiri.
Mae’r safle ar ben y bryn uwchlaw ffynnon sanctaidd Cybi yn Llangybi. Mae’r daith gerdded o’r ffynnon sanctaidd yn werth chweil a chewch olygfeydd rhyfeddol dros Eifionydd a Llŷn o gopa Carn Pentyrch.
Isffordd yn Llangybi rhwng yr A499 a A487
Cricieth - 7 milltir
Gwasanaeth bws ar gael
Nifer o lwybrau troed ar gael, yr agosaf yw'r un o'r fynwent yn Llangybi. Ewch ymlaen i fyny'r bryn o'r ffynnon.
Argymhellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 424417 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans :123