Taith gerdded hyfryd sy’n dilyn cenllifoedd Afon Clywedog trwy ei cheunant trawiadol
Mae’r llwybr 2½ milltir hwn sydd newydd ei gwblhau, wedi cael ei gynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r llwybr ar gael i’w lawrlwytho o’u gwefan. Mae’n cymryd tua 1½ i 2 awr i’w gerdded. Cerddwch drwy goetiroedd, gan fynd i lawr ac wedyn i fyny, gan ryfeddu at y ceunant dwfn a grëwyd gan Afon Clywedog islaw.
Anelwch at yr arwyddbost pren nesaf at yr A470. Ewch trwy giât mochyn, dilynwch y llwybr a chroeswch y bont dros y ceunant - edrychwch i lawr os mentrwch chi! Mae’r llwybr yn arwain i lawr yr allt, gan fynd heibio i gadair sy’n coffáu Mary Richards, casglwraig planhigion yn oes Victoria a oedd yn byw’n uwch i fyny’r afon ym Mhlas Caerynwch. Teithiau gryn lawer, yn bennaf i Affrica, gan ddod â llawer o blanhigion trawiadol yn ôl ar gyfer ei gerddi.
Ar un adeg roedd glannau afon Clywedog yn fwrlwm o weithgaredd diwydiannol. Roedd yno bandy, efail, melin wlân a ffwrnais haearn, ac mae rhai ohonynt yn dal yma heddiw. Wrth bont Clywedog efallai yr hoffech wneud dargyfeiriad bach i weld y ffwrnais a gynlluniwyd gan Abraham Derby yn Ffwrnais Dolgun. Mae’n safle o bwysigrwydd archaeolegol diwydiannol ac sy’n gysylltiedig â hanes Crynwyr yr ardal. Daeth Dolgellau gerllaw yn dref Grynwyr bwysig yn dilyn ymweliad gan George Fox yn 1657.
Gan groesi’r bont Clywedog, dilynwch y llwybr yr holl ffordd yn ôl i fyny i’r maes parcio ar y B4416.
Gerllaw, fymryn bach tuag at bentref Brithdir, mae Eglwys Sant Marc, un o’r eglwysi Celf a Chrefft gorau, a mwyaf cyflawn, yng Nghymru. Mae’r eglwys a godwyd yn yr 1890au bellach yn segur ac yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Fel arfer mae’n agored. Yng nghanol y pentref mae safle Caer Rufeinig Brithdir, yr ymadawyd â hi yn gynnar yn yr ail ganrif. Darganfuwyd gan archeolegwyr dystiolaeth o fwyndoddi plwm ac o gyweirio crwyn yma.
O Ddolgellau, dilynwch yr A470 i'r de. Ar ôl dwy filltir, trowch i'r chwith am y B4416 i gyfeiriad Brithdir. Croeswch y bont gul, Pont ar Ddibyn, ymhen 50m. Ymhen 200m wedi hynny mae cilfan ar y chwith a mynegbost yn nodi'r llwybr.
Abermaw - 8 milltir
Llwybrau anwastad gyda rhai darnau serth. Argymhellir esgidiau cerdded
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 761182 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124