A adwaenir yn annwyl fel ‘Brenhines Ein Llên’
Wedi ei geni ym mhentref chwarelyddol Rhosgadfan yn 1891, adwaenir Kate Roberts orau am ei hysgrifennu. Mae ei straeon byrion a nofelau yn trafod bywyd a diwylliant chwarelwyr a’r bobl yn yr ardal hon yn Arfon.
Mae Kate Roberts yn ymgorffori’r syniad o ddiwylliant Cymraeg wedi ei ganoli ar y capel, bywyd pentref a bywydau caled, arwrol y chwarelwyr, eu gwragedd a’u teuluoedd. Roedd ei thad, Owen Roberts yn chwarelwr, ac mae cartref ei phlentyndod, Cae’r Gors, erbyn hyn yn ganolfan treftadaeth dan ofal Cadw, yn dyddyn nodweddiadol o’r chwarelwr.
Mae Kate yn enghraifft wych o rywun a fagwyd mewn cartref chwarelwr cyffredin ond a lwyddodd i wella ei hamgylchiadau drwy addysg. Roedd addysg yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y gymuned hon yn Rhosgadfan. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac aeth yn athrawes yn ne Cymru.
Yn gefnogwr cynnar i Plaid Cymru, cyfarfu â’i darpar ŵr, William T Morris, argraffydd, yn un o’r cyfarfodydd. Priododd y ddau yn 1928. Yn 1935 symudodd y ddau i Ddinbych, wedi iddynt gymryd meddiant o Wasg Gee, cwmni argraffu a chyhoeddi. Gwasg Gee oedd yn cyhoeddi papur wythnosol Cymraeg ei iaith ‘Y Faner’ ble roedd Roberts yn gyfrannwr cyson.
Mae cofiant diweddar gan y bardd Alan Llwyd yn disgrifio person cymhleth, ansicr o’i rhywioldeb ac mewn priodas anodd. Bu farw Kate Roberts ar 14 Ebrill 1985 yn 94 mlwydd oed.