Dewch o hyd i chwedlau am lechi a’r bobl a weithiodd yn y chwarel ym mhentref Rhosgadfan
Cae’r Gors ym mhentref Rhosgadfan yw cartref plentyndod yr awdures Kate Roberts. Edrychwch o’ch cwmpas a dychmygwch sut oedd chwarelwr llechi a’i deulu yn byw yma. Dysgwch am arferion bywyd bob dydd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn y tŷ sydd wedi’i adfer a’r ganolfan treftadaeth, eiddo a brynwyd gan Cadw yn 2013 ar ran y genedl.
Yma cewch wybod mwy am Kate Roberts, merch chwarelwr a anwyd yn 1891. Roedd hi’n ddarllenwraig brwd ac aeth i astudio i Brifysgol Bangor cyn mynd yn ei blaen i fod yn awdures ac yn athrawes. Mae ei ffuglen Gymraeg yn dathlu sialensiau bywyd yng nghymuned chwarelyddol ei phlentyndod ac mae’n dathlu gwydnwch ei phobl. Cyfieithwyd nofelau a straeon byrion Kate Roberts i lawer o ieithoedd. Rhedodd gwmni cyhoeddi hefyd, Gwasg Gee a gynhyrchodd y papur newydd, Y Faner. Parhaodd Kate Roberts i ysgrifennu ar lawer o bynciau, yn cynnwys gwleidyddiaeth, hyd ei marwolaeth yn 94 oed yn 1985.
Ewch am dro ar hyd y gweundir sy’n amgylchynu’r pentref, a fu’n gartref i chwarelwyr o 1798 ymlaen. Yma ac acw ar y dirwedd mae bythynnod, pentrefi bychain a chapeli cymunedau oedd ar un amser yn gysylltiedig â thynged y diwydiant llechi.