Darganfyddwch fwy am Sant Cristnogol cynnar a gysylltir ag Ynys Enlli.
Mae gan Sant Cadfan neu ‘Catamanus’ yn Lladin lawer o gysylltiadau â gogledd Cymru. Yn gyffredinol credir mai ef oedd yn sylfaenydd y gymuned fynachaidd ar Ynys Enlli tua 516 a gwasanaethodd fel abad tan 542. Un stori yw bod Cadfan yn uchelwr o Lydaw a deithiodd i Gymru a sefydlu eglwys yn Llangadfan Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) cyn symud i Ynys Enlli.
Heddiw dim ond tŵr Abaty’r Santes Fair o’r 13eg ganrif sy’n sefyll ar Ynys Enlli.
Cysylltir Cadfan hefyd ag eglwys y plwyf yn Nhywyn, Meirionydd. Yn Eglwys Sant Cadfan yn Nhywyn, yn yr eglwys, y daethpwyd o hyd i un o’r enghreifftiau cyntaf o Gymraeg ysgrifenedig ar Garreg Gristionogol Gynnar yn dyddio o’r 7fed - 9fed ganrif. Cyfeirir weithiau at y garreg fel ‘Carreg Cadfan’ er nad oes gan yr arysgrifau unrhyw berthynas â’r sant Cristionogol cynnar.