Y Peiriannydd Enwog o’r Alban, oedd yn adeiladwr ffyrdd, pontydd a chamlesi ac a adwaenid fel ‘Cawr y Ffyrdd’.
Mae Thomas Telford (1757-1834) yn adnabyddus i drigolion gogledd Cymru am ei brosiectau adeiladu. Yn ystod dechrau’r 19eg ganrif gwelwyd y gwelliannau hanfodol i gysylltu Llundain â Dulyn.
Mae’n debyg mai camp fwyaf Telford oedd adeiladu’r A5 o Lundain i Gaergybi, ffordd sy’n dal i gael ei defnyddio drwy ogledd Cymru heddiw. Mae’r ffordd adeiladwyd drwy ddyffryn rhewlifol Nant Ffrancon yn dal yn ddarn o ffordd nodedig ac mae’n werth gyrru i lawr y dyffryn.
Gellir dadlau mai un o gampau gorau Telford oedd ei bont grog yn 1826 ar draws Afon Menai ym Mhorthaethwy, ac a gafodd ei hadnabod yn ddiweddarch yn Saesneg fel ‘Menai Bridge’. Wedi ei chwblhau mewn cyfnod o saith mlynedd, hon oedd y bont grog hwyaf yn ei chyfnod ac yn 580 troedfedd (180 m) ar draws. Defnyddiodd Telford fariau llygad haearn 9.5 troedfedd (2.9 m) wedi eu cysylltu’n unigol ar gyfer y ceblau.
Fe wnaeth Telford hefyd weithio ar ffordd arfordir gogledd Cymru o Gaer i Fangor (1827-1830) ac adeiladu pont grog arall yng Nghonwy. Agorwyd y bont yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn â Phont Grog Menai, yn 1826 ac roedd yn croesi’r Afon Conwy.
Gwelir un arall o gampweithiau Telford yn Nhraphont dŵr ysblennydd Pontcysyllte ar draws yr Afon Dyfrdwy. Wrth godi’r traphont roedd Telford wedi arloesi drwy ddefnyddio cafnau o haearn bwrw oedd yn cael eu dal gan waith maen. Mae’r draphont bellach yn Safle Treftadaeth Byd, ac yn cludo Camlas Llangollen.
Claddwyd Thomas Telford yn Abaty Westminster.