Yr Esgob a gyfieithodd y Beibl i Gymraeg yn 1588, ac felly helpu i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw
Adwaenir yr Esgob William Morgan orau fel cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae dyddiad y cyfieithiad, 1588, wedi ei selio ar gof plant ysgolion Cymru yn yr un ffordd â’r dyddiad 1066 ar gof plant ysgol yn Lloegr. Mae cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn cael ei ystyried yn un o’r ffactorau hanesyddol pennaf wrth ddiogelu’r Iaith Gymraeg hyd at heddiw.
Wedi ei eni yn y Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno yn 1545, roedd William Morgan yn ffodus iawn o gael addysg dda. Roedd ei dad yn denant i ystâd Gwydyr ger Llanrwst, a derbyniodd William ei addysg ochr yn ochr â’r Teulu Wynn o Wydyr. Aeth William Morgan ymlaen i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Cafodd ei ordeinio’n glerigwr yn Eglwys Lloegr yn 1568, gan symud i Lanrhaeadr ym Mochnant yn 1578.
Yma yn y pentref bach yng ngogledd Sir Drefaldwyn, yn swatio dan lechweddau’r Berwyn y daeth Morgan yn ymwybodol o gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd yn 1567. Daeth yn benderfynol o gyfieithu’r Beibl cyfan i’r Gymraeg, gan gynnwys diwygio’r Testament Newydd.
Mae cartref ei blentyndod, Tŷ Mawr Wybrnant, ar agor i’r cyhoedd ac ym mherchnogaeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gan bentref Llanrhaeadr ym Mochnant ddwy gofeb i William Morgan, plac ar wal y fynwent a cherfiad pren y tu allan i’r ganolfan gymdeithasol.