Cadeirlan odidog a chartref i Feibl unigryw
Mae Cadeirlan Llanelwy yn enwog am sawl rheswm. Mae’n gartref i Feibl William Morgan, y cyhoeddiad cyntaf un a sicrhaodd fod modd i bobl ddarllen y Beibl cyfan yn y Gymraeg. Roedd Morgan yn offeiriad plwyf a oedd yn cyflawni’r gwaith cyfieithu wrth wasanaethu ei braidd yn Llanrhaeadr ym Mochnant. Yn 1588, cyhoeddwyd ei gyfieithiad, a oedd yn defnyddio geiriau o ogledd a de Cymru. Gwnaed Morgan yn Esgob Llanelwy yn 1601. Mae’r gofeb Fictoraidd ger y gadeirlan yn coffau ei orchest ef yn ogystal â’i gyd-gyfieithwyr.
Y gadeirlan hon yw’r un lleiaf ym Mhrydain, dim ond 182 troedfedd o hyd, ac un o’r rhai hynaf yng Nghymru. Sefydlwyd y mynachdy a’r eglwys gyntaf yn y fan hon yng nghanol y chweched ganrif gan fynach o’r enw Cyndeyrn. Pan ddychwelodd Cyndeyrn i’r Alban gadawodd y fynachlog yn nwylo Asaff, ei hoff ddisgybl. Dyma sut y bu i Lanelwy, ‘yr eglwys ger afon Elwy’ gael ei hadnabod yn Saesneg fel St Asaph ac mae adeilad cyntaf y gadeirlan ar y safle yn dyddio’n ôl i thua 1239.
Ymosodwyd ar Lanelwy sawl tro yn ystod ei hanes, ond cafodd ei hailadeiladu bob tro. Gwnaed difrod mawr gan filwyr Brenin Edward I yn 1282, ac yn 1402 llosgodd byddin Owain Glyndŵr y gadeirlan, yn rhannol mewn protest yn erbyn awdurdod Lloegr. Mae’r gwaith atgyweirio wedi bod yn broses hirdymor a heddiw mae’r adeiladed yn bennaf o’r bedwaredd ganrif ar ddeg gyda llawer o addasiadau o Oes Fictoria. Y pensaer Gilbert Scott sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith y tu mewn i’r eglwys yn dilyn ei waith ailfodelu yn yr 1860au a’r 1870au.
Mae Taith Sain a Teithlen wedi eu creu ar gyfer y safle hon. I’w llawrlwytho ewch i’r dudalen yma
Wedi ei arwyddo o'r A55
Rhyl - 6 milltir
Gwasanaeth bws rheolaidd
Beicio ar y lôn
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SJ039743