Tirwedd brydferth sy’n cynnwys olion hoff balas, a phorfeydd tywysogion Gwynedd.
Ar un tro, roedd Abergwyngregyn yn safle i hoff lys, neu balas, tywysogion Gwynedd. Mae’r pentref tawel, gyda’r dirwedd o’i amgylch, yn cynnwys olion y gorffennol enwog hwn.
Chwiliwch am y mwnt tal, wedi’i orchuddio mewn glaswellt sy’n sefyll ar ymyl cae yng nghanol y pentref modern, ar lan de-orllewinol Afon Aber. Dyma’r cyfan sy’n weddill o gastell mwnt a beili a gafodd ei adeiladu, mwy na thebyg, gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif. Mae gweddillion llys tywysogion Cymru o’r 13eg ganrif yn llai amlwg. Fodd bynnag, ym 1993, datguddiodd y cloddiadau yn y cae gerllaw’r mwnt sylfeini neuadd fawr, yn ogystal â chrochenwaith o’r 13eg ganrif a’r 14eg ganrif, ac mae haneswyr wedi awgrymu bod y palas yn y fan hon.
Efallai bod harddwch awyrgylch naturiol Abergwyngregyn yn ddigon i esbonio pam y daeth yn hoff fan ar gyfer llys brenhinol. Mae taith gerdded i Raeadr Fawr, 2 filltir i’r de o’r pentref, yn amsugno rhai golygfeydd trawiadol. Ond roedd y dirwedd hon yn ddefnyddiol yn ogystal â phrydferth, fodd bynnag, ac mae’n werth cerdded allan ymhellach i’r wlad sydd o amgylch i gael syniad o’r mathau o ddefnyddiau a wnaed ohono.
Roedd o leiaf bum ffridd (porfeydd) frenhinol yma ar y llechweddau uwchlaw Abergwyngregyn yn y 13eg ganrif. Roedd gwartheg yn nwydd pwysig yng Nghymru’r canoloesoedd a tharddodd llawer o gyfoeth Llywelyn Fawr a’r tywysogion eraill o’r gyrroedd brenhinol. Uwchlaw’r pentref, gallwch barhau i weld gweddillion odyn ganoloesol lle'r oedd ceirch a barlys yn cael eu sychu i wneud bwyd i’r gwartheg. Mae modd gweld hefyd sylfeini’r cabanau hir o’r 13eg ganrif a ddefnyddiwyd gan y gwŷr a oedd yn gofalu am y gyrroedd hyn.
Mynediad am Ddim
Oddi ar yr A55, 7½ milltir i’r dwyrain o Fangor.
Gorsaf Llanfairfechan 3.3 milltir.
Mae bysiau rheolaidd rhwng Caernarfon a Llandudno’n stopio yn Abergwyngregyn. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
6.9 milltir i’r dwyrain o Fangor, ar y ffyrdd bach.
6.9 milltir i’r dwyrain o Fangor, ar y ffyrdd bach a’r llwybrau troed.
Canolig. Angen esgidiau cerdded. Caniatâd i gŵn.