Adfeilion unigryw preswylfa frenhinol.
Yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, rheolodd y tywysogion Wynedd mewn ffordd amlwg. Cafodd eu tiriogaeth ei rhannu’n feysydd gweinyddol a elwid yn gymydau, roedd pob un yn cynnwys treflan a oedd yn cael ei hadnabod fel maerdref. Roedd gan bob maerdref lys, neu balas, sef canol yr ystâd frenhinol. Teithiai’r tywysogion a’u gosgordd rhwng y llysoedd hyn ar hyd y flwyddyn, gan ddiddanu cynghreiriaid a gwŷr pwysig, gan weinyddu cyfiawnder a chasglu trethi.
Mae’r adfeilion yn Rhosyr yng nghornel de-orllewinol Ynys Môn yn adfeilion prin o’r fath lys – o faerdref Rhosyr, yng nghwmwd Menai. Yr hyn y gallwch ei weld heddiw yw rhyw chwarter o’r safle cyfan, ac mewn gwirionedd dim ond amlinellau carreg yr adeiladau sy’n aros. Fodd bynnag, mae digon wedi goroesi i roi darlun digon amlwg i chi o fywyd yn y llys.
O fewn y wal allanol, mae olion tri adeilad wedi’u cloddio. Yr hyn sydd fwyaf nodedig yw sylfeini carreg neuadd fawr. Heb amheuaeth, byddai hyn wedi cynnal cynulleidfaoedd a gwleddoedd brenhinol - mae olion poptai, lle byddai’r bwyd ar gyfer y fath wleddoedd wedi’u paratoi, wedi’u canfod gerllaw. Nesaf at y neuadd fawr mae adeilad llai a’r gred yw mai ystafelloedd preifat y tywysog oedden nhw pan oeddent yn byw yno. Mae’n werth dringo i fyny i’r platfform gwylio bach i gael syniad cliriach o’r sylfeini hyn, ac o ba mor helaeth oedd y safle yn ei oes aur.
Cafodd system y llys ei chefnu arni cyn gynted ag y concrodd Edward I Gymru. Yn wahanol i’r cestyll a adeiladodd y tywysogion, ni chafodd y llysoedd eu creu er mwyn amddiffyn. Mae’r ganolfan yn Rhosyr wedi goroesi cystal oherwydd iddo gael ei gladdu gan storm tywod difrifol ym 1332. Cafodd ei ddadorchuddio eto, a’i gloddio ym 1992.
Lle i ymarfer y dychymyg a chael teimlad o fyd y tywysogion.
Mynediad am Ddim
Mae’r safle’n gorwedd i orllewin pentref Niwbwrch, rhyw ½ milltir oddi ar yr A480.
4 milltir o Orsaf Bodorgan.
Mae bysiau’n stopio yn Niwbwrch. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Mae’r safle’n gorwedd ½ milltir i orllewin pentref Niwbwrch.
Mae’r safle’n gorwedd ½ milltir i orllewin pentref Niwbwrch.
Hawdd. Cynghorir esgidiau cerdded. Caniateir cŵn.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH4192865359 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.366049, 53.161782 Taflen map OS explorer: 262