Cartref y Ddraig.
Mae Dinas Emrys yn graig carreg frig serth, losgfynyddol sy’n amlwg dros Nantgwynant, sef y dyffryn prydferth sy’n ymestyn i’r gogledd-ddwyrain o Feddgelert. Mae’n olygfa drawiadol mewn unrhyw dywydd ac mae’n werth cerdded i fyny i’r copa, lle mae modd gweld sylfaen gwaith cerrig tŵr canoloesol o hyd. Dyma’r cyfan sy’n weddill heddiw o dŵr a gafodd ei adeiladu ar ddiwedd y 12fed ganrif yn ôl y gred, pan gafwyd brwydr am oruchafiaeth ymhlith tywysogion Gwynedd.
Tra byddwch ar y safle, chwiliwch hefyd am weddillion y rhagfuriau o garreg sy’n amgylchynu’r copa, y mae’n bosibl i’w hadeiladwaith fod wedi dechrau yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Ac ewch i weld hefyd a allwch ganfod olion siston a ddefnyddiwyd yn y Canoloesoedd. Y ffynnon sy’n ei fwydo oedd un o’r prif resymau pam cafodd y copa hwn ei gryfhau trwy’r oesoedd – am ei fod yn rhoi cyflenwad parod o ddŵr glân.
Roedd Dinas Emrys yn amlwg yn fan arwyddocaol hefyd adeg y tywysogion. Mae’r safle’n llenwi man strategol bwysig, gan edrych dros y ffordd sy’n rhedeg trwy Nantgwynant o’r gogledd-ddwyrain i’r arfordir. Mae’n werth cofio cyn i’r cob (morglawdd) ym Mhorthmadog gael ei adeiladu a’r tir y tu cefn iddo gael ei ddraenio yn y 19eg ganrif, roedd y môr yn dod o fewn 2½ filltir i Ddinas Emrys.
Mae Dinas Emrys yn gartref i un o chwedlau mwyaf parhaus Cymru: y stori enwog y tu cefn i symbol draig goch Cymru.
Os nad yw’r daith gerdded 45 munud o hyd i’r copa yn apelio atoch, gallwch edrych ar yr olygfa o Ddinas Emrys o amryw olygfannau ar Ystâd Craflwyn gerllaw.
Man delfrydol am grwydriad atmosfferig
Mynediad am Ddim
1 filltir i’r gogledd-ddwyrain o Feddgelert ar yr A498.
16 milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed. Mae Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru’n stopio ym Meddgelert bron bob dydd rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. Gweler http://www.whr.co.uk/ i gael mwy o wybodaeth.
Mae sawl bws yn stopio ym Meddgelert. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus. Mae Gwasanaeth Bws Sherpa yn mynd trwy Nantgwynant. Dyma’r gwasanaeth sy’n mynd yn ôl ac ymlaen o gwmpas gwaelod yr Wyddfa gan gysylltu pob un o’r chwe phrif lwybr troed a’r pentrefi o’u hamgylch. Mae amserlenni ar gael yn http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=2567&doc=25961&language=1&p=1&c=1
1 filltir o Feddgelert ar yr A498.
1 filltir o Feddgelert ar yr A498.
Eir at y safle o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn. Gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw https://www.nationaltrust.org.uk/craflwyn-and-beddgelert
Canolig. Serth a llithrig mewn mannau. Angen esgidiau cerdded. Cŵn ar dennyn yn cael. Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH60604920 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -4.079029, 53.021968 Taflen map OS explorer: OL17