Tirwedd hanesyddol o bwysigrwydd tyngedfennol i dywysogion Gwynedd.
Nid oes fawr o le i foderneiddio ar y llethrau serth a chreigiog bob ochr i Nantgwynant, sef y dyffryn ysblennydd i’r de-ddwyrain o’r Wyddfa. Mae gan yr ardal gyfan harddwch cadarn sy’n ei gwneud hi’n wlad heicio ardderchog, a gallwch dreulio diwrnod yma’n hawdd, dim ond yn crwydro ac yn llyncu’r golygfeydd. Byddwch yn dod ar draws pob math o ryfeddodau naturiol, yn ogystal â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, megis adfeilion Rhufeinig, systemau maes hynafol ac adeiladau fferm o’r canoloesoedd. Cewch wir ymdeimlad hefyd o Wynedd y tywysogion, o’r tir y gwnaethant geisio’i amddiffyn yn yr 11eg ganrif, y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, a gwerthfawrogiad o’r hyn yr oedd eu cestyll wedi bwriadu eu diogelu.
Caiff Nantgwynant ei ddiogelu ar y pen de-orllewinol gan Ddinas Emrys. Roedd y grimog drawiadol hon o graig losgfynyddol eisoes wedi’i chryfhau ers canrifoedd cyn i dŵr gael ei adeiladu yno ar ddiwedd y 12fed ganrif. Roedd y dyffryn ei hun yn cael ei ddefnyddio fel noddfa rhag y goresgynwyr. Yn wir, manteisiodd y tywysogion ar amddiffynfeydd naturiol y dyffryn sawl gwaith, gan orchymyn poblogaeth Gwynedd i symud i Eryri i ddianc rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr, y Normaniaid ac yn nes ymlaen, brenhinoedd olynol Lloegr.
Bu’r ffordd sy’n rhedeg trwy Nantgwynant yn llwybr mynediad pwysig erioed o’r gogledd- ddwyrain ac o’r arfordir. Yn y canoloesoedd, cyn i’r cob (morglawdd) ym Mhorthmadog gael ei adeiladu a’r tir y tu cefn iddo ddraenio yn y 19eg ganrif, roedd y môr yn dod o fewn 2½ filltir i Ddinas Emrys.
Ar ddiwedd y 12fed ganrif, rhoddodd Llywelyn Fawr lawer o’r tir yn Nantgwynant i fynachod Sistersaidd ei annwyl Abaty Aberconwy ar gyfer porfa, a gwnaethant ddefnydd helaeth ohono i fagu gwartheg a defaid. Roedd y Sistersiaid yng Nghymru’n adnabyddus am eu cynhyrchiant gwlân a gafodd ei allforio dros Ewrop benbaladr.
Mae’r A498 yn rhedeg trwy’r dyffryn, o’r gyffordd gyda’r A4086 i Feddgelert.
Mae’r dyffryn yn dechrau oddeutu 10 milltir o orsaf drenau Betws-y-Coed. Mae Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru’n stopio ym Meddgelert bron bob dydd rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. Gweler http://www.whr.co.uk/ i gael mwy o wybodaeth.
Mae sawl bws yn stopio ym Meddgelert gyda rhai’n dod i mewn i Nantgwynant. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus. Mae Gwasanaeth Bws Sherpa yn mynd trwy Nantgwynant. Dyma’r gwasanaeth sy’n mynd yn ôl ac ymlaen o gwmpas gwaelod yr Wyddfa gan gysylltu pob un o’r chwe phrif lwybr troed a’r pentrefi o’u hamgylch. Mae amserlenni ar gael yn http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=2567&doc=25961&language=1&p=1&c=1
Mae’r dyffryn yn rhedeg am oddeutu 8 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Feddgelert.
Mae’r dyffryn yn rhedeg am oddeutu 8 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Feddgelert.