Eglwys Frenhinol mewn treflan frenhinol.
Saif pentref Trefriw ar ymyl Eryri, gerllaw’r pwynt lle mae Afonydd Conwy a Chrafnant yn cwrdd. Mae Coedwig brydferth Gwydir yn ymestyn dros y llechwedd uwchlaw iddo.
Roedd Trefriw’r canoloesoedd yn fan bwysig. Dan y tywysogion, rhannwyd Gwynedd yn nifer o unedau gweinyddol a oedd yn cael eu galw’n gymydau, wrth wraidd y rheiny oedd treflan frenhinol, neu faerdref. Roedd Trefriw’n faerdref ar gyfer cwmwd Nantconwy ac yn safle llys – neu lys brenhinol. Roedd y dref yn cynnal marchnad, melin a physgodfa ar Afon Conwy hefyd.
Roedd trigolion y cwmwd yn ‘denantiaid bond’ oedd yn gorfod talu am ddarpariaethau’r tywysog pan oedd ar ymweliad. Ym 1352, roedd y rhain yn cynnwys “tri tharw, tair buwch a chwe chrynnog o geirch.” Parhaodd Trefriw’n ffyniannus ymhell ar ôl concwest y Saeson ar Wynedd ym 1282 ac rydym yn gwybod cryn dipyn am ei heconomi yn sgil arolwg o renti a threthi tir ym 1352.
Mae cysegriad yr eglwys i’r Forwyn Fair yn gyson gydag eglwysi eraill mewn maerdrefi brenhinol. Y gred yw bod Llywelyn Fawr wedi sefydlu’r eglwys ei hun yn y 1230au, er cyfleustod - yn ôl y chwedl - i’w wraig o Loegr, Siwan. Roedd hi wedi blino ar y daith gerdded hir a serth i Sant Rhychwyn. Ni allwn ei beio hi: mae’n grwydr a hanner. Felly, trefnodd Llywelyn fod y Santes Fair yn cael ei hadeiladu yn y dref. Ychydig o’r adeilad gwreiddiol o’r 13eg ganrif sydd wedi goroesi, fodd bynnag. Cafodd yr eglwys a welwch heddiw ei hailadeiladu’n helaeth yn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif ac mae llawer o’r ochr allanol yn dyddio i’r 19eg ganrif.
Mae gan Llywelyn a Siwan bresenoldeb yn Eglwys y Santes Fair o hyd. Ar y tu mewn, mae ffenestr gwydr lliw, a wnaed yn y 1930au, sy’n portreadu’r pâr brenhinol. Mae o’n gwisgo durwisg (chainmail) a choron aur, ac mae’n cario cleddyf a tharian wedi’u haddurno gyda draig goch wyllt. Mae gan hithau goron hefyd, ac mae wedi’i gwisgo mewn ffrog aur a chlogyn coch gwych ac mae’n dal tusw o gennin Pedr euraidd cenedlaetholgar.
Gorffwyswch ac ymlaciwch yn yr eglwys heddychlon hon cyn crwydro ar y bryniau uwchlaw
Mynediad am Ddim
Yng nghanol pentref Trefriw.
2½ filltir o orsaf drenau Llanrwst.
Mae bws rhif 19 Arriva (Llandudno i Fetws-y-coed) yn stopio yn Nhrefriw, nid nepell o’r eglwys. Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch ar-lein i http://www.traveline-cymru.info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus.
Yng nghanol pentref Trefriw.
Yng nghanol pentref Trefriw.
Hawdd.
Cyfeirnod Grid: SH59094804 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: - 4.101759, 53.011049 Taflen map OS explorer: OL17