Eglwys hynafol – un o’r rhai mwyaf heddychlon yng Nghymru.
Yn uchel uwchlaw Dyffryn Conwy, wrth ochr buarth anghysbell, saif Eglwys Sant Rhychwyn – un o’r eglwysi hynaf a hyfrytaf yng Nghymru.
Yn ôl y traddodiad, fe’i sefydlwyd yn y 6ed ganrif gan Rhychwyn, un o feibion Helig ap Glannog – tywysog Cymreig a reolodd lain o dir a estynnodd yr holl ffordd i Ynys Seiriol oddi ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn. Cafodd y tir hwn ei foddi gan y môr ac, ar ôl colli ei barth cyfan, cofleidiodd Helig a’i feibion y bywyd crefyddol. Dywedwyd bod Rhychwyn wedi sefydlu’r eglwys uwchlaw Trefriw sy’n dal i ddwyn ei enw.
Does dim wedi goroesi o’r adeilad pren a phleth gwreiddiol y credir iddo sefyll yma ar un tro, a mwy na thebyg bod y rhannau cynharaf o’r eglwys yn dyddio i’r 12fed ganrif. Ond mae Sant Rhychwyn yn parhau i feddu ar ymdeimlad grymus o hynafiaeth.
Wrth i chi fynd i mewn, cymerwch olwg dda ar y drws mawr o dderw - sylwch ar ei golynnau o bren. Y tu mewn, mae’r bedyddfaen syml mor hen â’r adeilad ei hun. Mae trawstiau agored y to’n dyddio’n ôl rhyw wyth canrif. Ac yn ôl pob sôn, roedd y gloch yn hongian yn y 14eg ganrif yn Abaty Maenan, a arferai sefyll 5 milltir i ffwrdd. Efallai mai’r hynafiaeth brydferthaf, serch hynny, yw’r gwydr wedi’i baentio o’r 15fed ganrif y tu cefn i’r allor. Mae’n anghyflawn, ond gallwch weld yn glir ddisgrifiadau o’r Drindod Sanctaidd, ac o’r Forwyn a’i Phlentyn.
Mae’r eglwys yn cael ei hadnabod fel Eglwys Llywelyn ar ôl Llywelyn Fawr oedd â llys (preswylfa frenhinol - yn Nhrefriw gerllaw). Os penderfynwch gerdded oddi yno i Eglwys Sant Rhychwyn ac yn teimlo’r daith gerdded yn anodd, rydych chi mewn cwmni da. Yn ôl y chwedl, roedd gwraig Llywelyn, Siwan, yn cael y daith gerdded wythnosol i fyny i’r fan hon mor feichus, gwnaeth ei gŵr adeiladu eglwys arall iddi yn is i lawr y dyffryn – Eglwys y Santes Fair yn Nhrefriw.
Man o harddwch tawel, sy’n ddelfrydol i fyfyrio a meddwl.
Mynediad am Ddim
1½ filltir i fyny’r ffyrdd serth, troellog o’r B5106 yn Nhrefriw.
2½ filltir o orsaf drenau Llanrwst.
Dim gwasanaeth addas.
1½ filltir i fyny’r ffyrdd serth, troellog o’r B5106 yn Nhrefriw.
1½ filltir i fyny’r ffyrdd serth, troellog o’r B5106 yn Nhrefriw.
Hawdd os ydych chi’n gyrru, ond yn flinedig iawn os cerddwch chi o Drefriw. Angen esgidiau cerdded.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH77486161 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: - 3.833160, 53.137519 Taflen map OS explorer: OL17