Olion gwan o fan geni Llywelyn Fawr.
Mae natur bellach wedi adennill tipyn o Domen Castell, ar ymyl gorlifdir Cwm Lledr. Ar ochr arall y ffordd i adfail rhamantus Castell Dolwyddelan, mae’r domen greigiog hon, sydd wedi’i gorchuddio mewn coed pinwydd yr Alban, ond sydd, serch hynny’n dal i ddangos olion strwythur o garreg o ddiwedd y 12fed ganrif ar y copa. Dyma’r cyfan sy’n weddill o fan geni tebygol y tywysog amlycaf o blith tywysogion Gwynedd, sef Llywelyn Fawr.
Mae’n rhaid bod y castell wedi bod yn strwythur trawiadol yn ei ddydd. Roedd yn sicr yn gryf: mae cloddiadau archeolegol yn awgrymu fod y wal bron i 3 metr o drwch mewn mannau. Rhoddodd ffos ar waelod ochr orllewinol y domen ddiogelwch ychwanegol.
Yn yr un modd â’i frawd enwocach ac wedi’i ddiogelu’n well ar ochr arall y ffordd, mwy na thebyg cafodd Tomen Castell ei adeiladu i oruchwylio a rheoli ffordd y mynydd trwy dde Eryri, o Gonwy i Ardudwy, ac i ddiogelu tiroedd pori’r tywysogion yn ystod yr haf. Byddai gyrroedd brenhinol Gwynedd wedi pori yn y caeau hynny sy’n ymestyn o’i gwmpas, fel y mae eu disgynyddion yn ei wneud heddiw.
Nid oes modd mynd at y safle ei hun yn gyhoeddus ond gallwch gael golygfa dda ohono o dŵr Castell Dolwyddelan.
Man diddorol i’w gweld yn ystod taith gerdded hwy o gwmpas Cwm Lledr.
Mynediad am Ddim
Llai na milltir i’r gorllewin o bentref Dolwyddelan ar yr A470.
Ychydig dros filltir o orsaf drenau Dolwyddelan.
Dim gwasanaeth addas.
Llai na milltir i’r gorllewin o bentref Dolwyddelan ar yr A470.
Llai na milltir i’r gorllewin o bentref Dolwyddelan ar yr A470.
Nid oes modd mynd at y safle ac mae ar dir preifat, ond gellir edrych arno ar ochr arall y ffordd uwchlaw’r maes parcio ar gyfer Castell Dolwyddelan.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: SH72475216 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -3.904578, 53.051125 Taflen map OS explorer: OL17