O wroldeb canoloesol i ffantasi Fictoraidd.
Gan eistedd ar graig uwchlaw Cwm Lledr, gyda mynydd tywyll a chreigiog Moel Siabod yn amlwg y tu cefn iddo, mae Castell Dolwyddelan i weld yn esiampl ddelfrydol o adfail castell canoloesol. Mae’r tŵr tal siâp petryal gyda’i furfylchau, y tŵr gorllewinol sydd wedi malurio’n gain, yr amgylchoedd garw godidog: maen nhw’n edrych bron yn rhy dda i fod yn wir. Ac mewn gwirionedd, mae gan ymddangosiad y castell rywfaint o ddyled i gyfoeth a dychymyg ei adnewyddwr Fictoraidd, yr Arglwydd Willoughby de Eresby. Er enghraifft, ei waith ei hun yn llwyr yw’r murfylchau amlwg sy’n goron i’r tŵr.
Mae Dolwyddelan wedi’i ystyried yn draddodiadol fel man geni Llywelyn Fawr. Mewn gwirionedd, mwy na thebyg mai Llywelyn a’i hadeiladodd rhywbryd rhwng 1210 a 1240. Yn yr un modd â’r Castell Dolbadarn yr un mor drawiadol yn Llanberis, Castell y Bere ger Tywyn a Dinas Emrys ger Beddgelert, mae Dolwyddelan yn llenwi man strategol bwysig. Rheolodd y ffordd o’r gogledd i’r de trwy Eryri, gan gysylltu Conwy a Harlech, a chyn bwysiced â hynny, diogelodd y tiroedd pori brenhinol.
Yn y pen draw, cipiwyd Castell Dolwyddelan gan luoedd Edward I ym 1283, a gwnaethant ei gynnal fel cadarnle am amser byr. Fodd bynnag, canolbwyntiodd y brenin ar ei amddiffynfeydd ar yr arfordir ac, yn raddol, aeth y castell yn angof.
Mae’n werth cerdded i fyny’r graig i’r tŵr – sylwch ar y ffordd y mae’r adeilad fel petai bron yn tyfu allan o’r graig mae’n sefyll arni. Ar ôl ichi ddringo i fyny’r murfylchau cywrain hynny, gallwch fwynhau panorama rhyfeddol Cwm Lledr. Wedyn, trowch o gwmpas i gymryd llethrau Moel Siabod, lle arferai’r gyrroedd mawr o wartheg, a ddarparodd gymaint o’u cyfoeth i dywysogion Gwynedd, gnoi cil.
Ar draws y brif ffordd, ar lawr y dyffryn, gallwch weld carreg frig greigiog, wedi’i gorchuddio gan goed gydag adfail adeilad fferm ar y gwaelod. Tomen Castell yw hwn, a chanddo adfeilion castell canoloesol ar ei gopa - a mwy na thebyg dyma wir fan geni Llywelyn Fawr.
Y safle perffaith am bicnic, cyn, neu ar ôl, mynd ar un o’r teithiau cerdded o gwmpas Cwm prydferth Lledr.
Ychydig dros filltir i’r gorllewin o bentref Dolwyddelan ar yr A470.
Ychydig dros filltir o orsaf drenau Dolwyddelan.
Dim gwasanaeth addas.
Ychydig dros filltir i’r gorllewin o bentref Dolwyddelan ar yr A470.
Ychydig dros filltir i’r gorllewin o bentref Dolwyddelan ar yr A470.
Canolig. Angen esgidiau cerdded.
Ffigur Llawn y Cyfeirnod Grid: NGR SH72195233 Cyfesurynnau ar gyfer defnyddwyr SatNav Garmin: -3.909517, 53.053158 Taflen map OS explorer: O17