‘Reidio’r T’
Tramffordd Y Gogarth yw’r unig dramffordd gebl sy’n parhau i weithredu ym Mhrydain. Dim ond dwy arall sydd yn y byd, sef yn San Fransisco a Lisbon. Mae cynllun Tramffordd Pen y Gogarth yn debyg i’r un yn Lisbon. Disgrifir y ddwy fel tramffordd halio stryd, sy’n golygu bod y cerbydau ynghlwm wrth y cebl yn barhaol. Y cebl sy’n gyfrifol am gychwyn ac am stopio’r cerbydau.
Ar ôl blwyddyn o waith adeiladu, agorwyd Tramffordd Pen y Gogarth ynghanol y tymor gwyliau ym mis Gorffennaf, i gerddoriaeth ‘God Save the King’ a chwaraewyd gan Fand Tref Llandudno. Yn y flwyddyn gyntaf yn unig, teithiodd dros 75,000 o bobl ar y dramffordd.
Mae’r llinell yn rhedeg o Orsaf Fictoria ac yn codi oddeutu 600 troedfedd i Orsaf Copa Pen y Gogarth. Rhaid i deithwyr newid trenau yn yr Orsaf Ganol gan fod rhannau uchaf ac isaf y llinell yn gwbl ar wahân. Yn wreiddiol, roedd mecanwaith weindio drwy bŵer stêm yn yr Orsaf Ganol, ond cafodd ei ddisodli gan beiriant trydan ym 1958. Yn ddiweddar agorwyd arddangosfa yn yr Orsaf Ganol fydd o ddiddordeb mawr i selogion y byd trenau.Ni cheir ‘gyrwyr’ ar Dramffordd Pen y Gogarth. Rheolir y cerbydau o’r ystafell beiriannau yn yr Orsaf Ganol, gyda’r cyfathrebu gwreiddiol yn cael ei wneud drwy gyfrwng telegraff. Erbyn heddiw mae popeth yn cael ei reoli o bell. Yn ddiweddar gwnaed llawer o waith adnewyddu ac mae’n anhygoel fod y pedwar cerbyd gwreiddiol o 1902 yn dal i gael eu defnyddio.
Tua diwedd Mawrth tan tua diwedd Hydref
Pob ugain munud
7 diwrnod yr wythnos
Rhwng 10 y bore a 6 y nos (o ddiwedd Mawrth i Hydr