Dewch o hyd i’r llewod ar naill ochr i Afon Menai
Roedd strwythur trawiadol a choeth Pont Britannia yn chwyldroadol yn ei dyluniad pan gafodd ei chwblhau ym 1850. Robert Stevenson dderbyniodd yr her o adeiladu pont i gludo trenau dros yr afon Menai brydferth fel rhan o Reilffordd Caer i Gaergybi.
Beth oedd mor arbennig am ddyluniad Stevenson? Defnyddiodd dechneg oedd wedi cael ei datblygu’n ddiweddar gan seiri llongau ble defnyddiwyd haearn gyr i wneud tiwbiau petryalog; roedd y rhain wedyn yn cludo’r trac ar draws y bont. Defnyddiwyd y dull adeiladu hwn am y tro cyntaf ar Bont Rheilffordd Conwy, oedd wedi agor ddwy flynedd ynghynt. Ym mhen hir a hwyr, byddai cynhyrchu dur yn rhatach – sef deunydd a fyddai’n llawer mwy addas i adeiladu pontydd – yn golygu y byddai defnyddio haearn gyr yn darfod. Yng nghyfnod adeiladu’r bont, roedd y deunydd a’r dull yn hynod arloesol ac fe ysbrydolodd strwythurau tebyg yn yr Aifft a Chanada.
Roedd pedwar llew carreg yn amddiffyn y mynedfeydd i’r tiwbiau, dau ar bob ochr. (Yn rhyfedd ddigon, ni chafodd cerflun cynlluniedig o Britannia erioed mo’i adeiladu.) Yn fuan, daeth y bwystfilod yn nodwedd boblogaidd o’r bont, gan ysbrydoli pennill lleol enwog:
Pedwar llew tew
Heb ddim blew
Dau 'ochr yma
A dau 'ochr drew
Golygodd tân ym 1970 bod angen addasiadau ar y bont, ond goroesodd y llewod wrth lwc. Gellir eu gweld hyd heddiw yn amddiffyn eu strwythur godidog yn falch.