‘Mab y Bwthyn’ a gododd i reoli’r Ymerodraeth
Ganwyd David Lloyd George ym Manceinion yn 1863 a chododd i fod y prif weinidog cyntaf a hyd yma'r unig siaradwr Cymraeg i ddal swydd Prif Weinidog Prydain Fawr. Ar ôl marwolaeth ei dad, dychwelodd ei fam, Elizabeth George gyda’i mab dwyflwydd oed, David, i Lanystumdwy, Sir Gaernarfon, ei chyn bentref. Roedd y fagwraeth wylaidd hon wedi cynorthwyo i ffurfio’r egwyddorion yr adeiladodd Lloyd George ei yrfa wleidyddol arnynt, a byddai bob amser yn ffafrio diddordebau’r dyn cyffredin uwchlaw’r rhai y byddai ef yn cyfeirio atynt fel ‘y Dugiaid’.
Ar ôl sefydlu cwmni cyffreithiol prysur ym Mhorthmadog, etholwyd Lloyd George yn AS i’r Rhyddfrydwyr dros Fwrdeistrefi Caernarfon yn 1890. Yr adeg honno, roedd yn swydd ddi-dâl, felly parhaodd Lloyd George i weithio fel twrnai yn Llundain er mwyn cynnal ei hun yn ariannol. Yn gynnar yn ei yrfa wleidyddol, roedd yn gefnogwr cryf o hunaniaeth genedlaethol Gymreig a sefydlodd ef sawl cangen o Gymru Fydd.
Yn 1906 daeth Lloyd George yn aelod o Gabinet y Rhyddfrydwyr Syr Henry Campbell-Bannerman ac yn y diwedd daeth yn Brif Weinidog yn 1916 ac arwain Prydain Fawr drwy lanast y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef fu’n gyfrifol hefyd am osod sylfaen y wladwriaeth les ac erys ef yn gymeriad y mae gan lawer o bobl feddwl mawr ohono yng Ngwynedd hyd heddiw.
Yn yr amgueddfa mae casgliad o wrthrychau a gysylltir â Lloyd George, gan gynnwys paentiadau, blychau yn dal rhyddfreiniau, gwisgoedd, ei gopi personol o Gytundeb Versailles a phethau cofiadwy eraill. Yn gysylltiedig â’r amgueddfa hefyd mae cartref Lloyd George pan oedd yn blentyn, sef Highgate. Mae ei fedd ar lannau’r Ddwyfor, dafliad carreg o'r amgueddfa.