Y Cymro ddaeth yn brif weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac a wasanaethodd fel AS am 50 mlynedd.
Daeth Lloyd George yn un o wladweinwyr mwyaf yr 20fed ganrif. Cafodd ei eni ym Manceinion, ond ei fagu ym mhentref hardd Llanystumdwy. Mae Amgueddfa Lloyd George ynghyd â Highgate, ei gartref Fictoraidd pan oedd yn blentyn gyda’i weithdy crydd yn Llanystumdwy, yn adrodd stori y dyn nodedig hwn.
Ar farwolaeth ei dad yn 1864, aeth y David Lloyd George ifanc i fyw gyda’i ewythr Richard yn Llanystumdwy ac yma yr aeth i’r Ysgol Genedlaethol pan oedd yn blentyn.
Yn 1884 llwyddodd Lloyd George yn ei arholiad terfynol yn y Gyfraith a sefydlu ei fusnes ei hunan fel twrnai yng Nghricieth. Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol i Fwrdeistrefi Caernarfon yn 1890 enillodd gyda mwyafrif bychan o 18 pleidlais. Dyma’r swydd a gadwodd am 50 mlynedd.
Efallai mai un o’i lwyddiannau mwyaf oedd cyflwyno pensiwn i’r henoed yn 1908 tra roedd yn Ganghellor y Trysorlys. Daeth yn Brif Weinidog ar 7 Ragfyr, 1916 yn ystod cyfnod allweddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd eisoes wedi dal swyddi Gweinidog Arfau Rhyfel ac Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel.
Mae hefyd yn cael ei gofio fel y prif weinidog a roddodd bleidlais i wragedd, ond methodd â datrys y problemau yn yr Iwerddon.
Wedi marwolaeth ei wraig Margaret yn 1941, priododd Lloyd George Frances Stevenson yn 1943. Yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 1945 daeth yn Iarll Lloyd George o Ddwyfor. Ar 26 Mawrth bu farw yn y Tŷ Newydd, Llanystumdwy.
Claddwyd Lloyd George yn Llanystumdwy ar lannau’r Afon Dwyfor. Ymwelwch â bedd Lloyd George gyda’i ddyluniad Clough Williams-Ellis.