O ddechreuad cyffredin daeth Syr Henry Jones yn ffigwr allweddol wrth sefydlu Prifysgol Cymru, ac yn y diwedd cafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i addysg.
Yr un fath â’r rhan fwyaf o blant eraill yn niwedd y 19eg ganrif, gadawodd Henry Jones yr ysgol yn 12 oed a mynd i weithio. Ond rodd ‘Harri’r Cwm’ fel y byddai’n cael ei adnabod yn lleol yn benderfynol o barhau â’i astudiaethau. Gweithiodd gyda’i dad, crydd y pentref, yn ystod y dydd ac (yn ei eiriau ei hun) ‘gweithio gyda’m llyfrau drwy’r oriau mân a nes i’r bore gyrraedd,’ ac enillodd ysgoloriaeth i gael ei hyfforddi’n athro.
Fe ddaeth Henry Jones yn Athro Athroniaeth Moesol ym Mhrifysgol Glasgow. Roedd Henry yn athronydd ac yn athro disglair, ac roedd ei waith wedi ei effeithio’n arw gan ei fywyd cynnar yn ei bentref genedigol a gweithdy’r crydd. Nid anghofiodd ei ddechreuad cyffredin a gweithiodd yn galed i wella’r system addysg yng Nghymru.
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, byddai Lloyd George yn aml yn ymgynghori gyda Henry Jones ar faterion yn ymwneud ag addysg. Yn 1912 cafodd Henry Jones ei urddo’n farchog, ac yn 1922 fe’i gwnaed yn Gydymaith Anrhydedd.
Derbyniodd Henry hefyd fedal Cymdeithas y Cymrodorion am ei wasanaeth i Gymru. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1922 sefydlwyd cronfa goffa, ac yn 1934 agorwyd cartref ei blentyndod, Y Cwm, fel amgueddfa. Gallwch barhau i ymweld â gweithdy’r crydd a’r gegin fach a’r ystafell wely ble roedd Henry a’i deulu yn gweithio a byw. Gallwch hefyd ganfod mwy am y capel, yr ysgol a bywyd yn y pentref diarffordd hwn ar yr ucheldir yng ngogledd Cymru – mae’n werth ymweliad.