Hanes dwy bont wych a’r Fenai, ar gael i bawb ei weld
Mae Pont y Borth a Phont Britannia ill dwy yn enghreifftiau trawiadol o ddylunio diwydiannol arloesol. Cewch wybod mwy am y pontydd clodwiw a’u peirianyddion enwog wrth ymweld â’r arddangosfa sydd yng Nghanolfan Thomas Telford ar Ynys Môn. Cewch ddarganfod mwy am Thomas Telford a Robert Stephenson, y gwŷr a ddyluniodd y pontydd, yn ogystal â llu o grefftwyr a lwyddodd i wireddu’r cynlluniau. Mae’r arddangosfa yn cynnwys darnau o’r pontydd gwreiddiol, dyluniadau a gweithgareddau rhyngweithiol yn ogystal â hanes lleol, bywyd gwyllt a hanesion llongau ar y Fenai.
Cysylltwch â’r ganolfan cyn i chi ymweld i gael gwybod beth yw’r oriau agor ac i gael manylion y teithiau tywys. Mae modd i chi gerdded o’r ganolfan ac ar hyd Pont Grog y Fenai. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y llewod enwog ar Bont Britannia cyn i chi adael.
Ffoniwch am fanylion
A5 ym Mhorthaethwy
Bangor neu Llanfairpwll - 2 filltir
Safle bws Ffordd Mona
Yn ymyl llwybr Cenedlaethol rhif 5
Teithiau tywys o'r pontydd o dro i dro. Ffoniwch am ragor o wybodaeth.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 555718 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 114,115