Ewch am dro drwy’r dyffryn trawiadol hwn i glywed adleisiau o’r hen gymuned chwarelyddol
Yn un o sawl chwarel lechi uwchben tref Blaenau Ffestiniog, saif Chwarel Lechi Cwmorthin ar lannau Llyn Cwmorthin. Gellir ymdeimlo â bywydau’r rhai a fu’n byw a gweithio yn y chwareli yma drwy fynd am dro atmosfferig rhwng y bythynnod adfeiliedig ac olion Capel Rhosydd, capel y Methodistiaid Calfinaidd a thŷ’r ysgol. Chwiliwch y tu ôl i Rhes Rhosydd am y llwybr serth a ddefnyddiwyd gan weithwyr i gyrraedd y mwynglawdd.
Bu’n gweithio’n wreiddiol ar ddechrau’r 1800au ac arweiniodd arferion gweithio gwael a phenderfyniadau peirianyddol byrbwyll at gwymp sylweddol a roddodd derfyn ar gynhyrchu. Yn ail hanner y ganrif, ailddechreuwyd gwaith yno ond daeth hynny i ben hefyd ym 1901. Parhawyd i echdynnu llechi mewn capasiti cyfyngedig tan yr 1990au cynnar.
Heddiw, mae’r mwynglawdd yn cael ei gynnal gan ‘Gyfeillion Cwmorthin’, ac mae mynediad ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb: gofynnwch am y cod wrth y giât. Ond cofiwch, fel pob mwynglawdd segur, y gall fod yn amgylchfyd peryglus i’r dibrofiad. Caiff y sawl sy’n mentro dan ddaear eu gwobrwyo â milltiroedd o dwnneli i’w harchwilio a channoedd o siambrau anferth – gyda phob un yn llawn arteffactau megis cyrn powdwr, grisiau pren, winshis, wagenni, craeniau a phontydd.