Ewch i weld technoleg o oes Fictoria mewn parc gwledig godidog
Ceir trysorau yn y gweithdai diwydiannol hyn o oes Fictoria, megis yr injan stêm a wnaed gan y peirianwyr De Winton a leolwyd yng Nghaernarfon - ac mae’r injan yn parhau i weithio heddiw ar ôl i simneiwr enwog ac un o selogion ynni stêm, Fred Dibnah, helpu i’w hadfer! Yn wreiddiol, defnyddiwyd yr injan i gynhyrchu ynni i yrru bwrdd llifio cerrig a llechi yn y gweithdy.
Trefnir y gweithdai o gwmpas cwrt ac maent yn dyddio yn ôl i’r 1850au. Roeddynt yn gwasanaethu Ystâd Glynllifon, gyda’i blasty (Plas Glynllifon) o gyfnod ar ôl y Rhaglywiaeth a adeiladwyd yn 1846. Roedd yr holl ystâd yn perthyn i deulu'r Wyniaid (a ddaliai'r teitl Arglwydd Newborough). Roedd y gweithdai yn cynnwys bwrdd llifio cerrig, gefail gof, melin goed a thanerdy. Wedi’i osod mewn parcdir rhestredig Gradd 1 ar gyrion mynyddoedd Eryri, mae’r ystâd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hefyd, sy’n cynnwys planhigion a bywyd gwyllt prin.
O ddiddordeb arbennig yw olion safle gwaith nwy’r ystâd ei hun a gellir gweld marciau nodedig ble safai’r cynhwysyddion nwy yng nghwrt gweithdai’r ystâd. Cynhyrchid nwy-glo i gynhyrchu ynni i lampau nwy Glynllifon o 1856.