Cyfnerthu grym y Rhufeiniaid
Cafodd caer Rufeinig Canovium (Caerhun heddiw) ei hadeiladu yn tua OC 77/78. Cynlluniwyd i gadarnhau ymgyrch filwrol y Rhufeiniaid yn yr ardal dan arweiniad y llywodraethwr Rhufeinig, Gnaeus Julius Agricola. Roedd y gaer wedi’i lleoli ar hyd y ffordd Rufeinig oedd yn cysylltu’r pencadlys milwrol yn Deva (Caer heddiw) gyda gorsafoedd ar y ffin yng Nghymru, ac roedd y safle yn groesfan bwysig ar Afon Conwy, ac yma heddiw mae pentrefan Tal y Cafn.
Mae Eglwys y Santes Fair bellach yn sefyll yng nghornel gogledd-ddwyreiniol y safle a gellir gweld olion yr hen dŷ baddon Rhufeinig drws nesaf i’r fynwent. Cafodd y strwythur coed gwreiddiol ei newid am gaer llawer mwy, wedi’i hadeiladu o garreg, yng nghanol yr 2il ganrif oedd yn cynnwys siambrau’r gard wrth bob un o’r pedair giât, a thyrrau gwylio ym mhob cornel. Mae’n debyg bod y gaer yn gartref i un garfan gyfan o filwyr (tua 500 o ddynion) oedd yn byw mewn blociau baracs ochr yn ochr â’r Principia neu adeilad y pencadlys. Datblygodd vicus neu anheddiad sifil ar hyd y ffordd oedd yn arwain at y gaer, a bu pobl yn byw ynddi am gyfnodau tan ddiwedd y 4edd ganrif, pan ymddengys bod y safle wedi ei gadael.
Cafodd Canovium ei chloddio’n helaeth yn yr 1920au, a dadorchuddiwyd nifer o arteffactau yn cynnwys gêm gyda chownteri, a theilsen ac arni ôl troed plentyn. Gellir gweld y gwrthrychau yn Amgueddfa Llandudno.