Dilynwch ôl troed y llengoedd Rhufeinig
Uwchben pentref Rowen yn Nyffryn Conwy erys darn o’r ffordd Rufeinig a gysylltai caerau Caerhun (Canovium) â Chaernarfon (Segontium). Roedd y ffordd hon yn rhan o rwydwaith cyfathrebu llawer ehangach a gysylltai tref strategol lengol Caer (Deva) â chaerau Rhufeinig cynorthwyol gogledd Cymru.
Mae’r ffordd, gan fwyaf, yn dilyn llwybr hynafol y tybir y’i defnyddiwyd ers yr oes Neolithig. Ar hyd y ffordd saif sawl lleoliad hynafol gan gynnwys Maen y Bardd, siambr gladdu Neolithig neu ddolmen y tybir sydd oddeutu 5000 o flynyddoedd oed. Ar derfyn gorllewinol Dyffryn Rowen mae Bwlch y Ddeufaen. Caiff y bwlch ei enw oherwydd y ddau fonolith cynhanesyddol o ddyddiad ansicr a saif ym mynedfa uchaf y bwlch.
Dilynodd y Rhufeiniaid lwybr yr hen ffordd ond newidiwyd cyfeiriad y ffordd mewn mannau. Dim ond rhannau o’r ffordd y gellir cadarnhau eu bod yn rhan o’r ffordd Rufeinig ond mae’n dal yn bosib dilyn ôl traed y milwyr a feddiannodd yr ardal ar un adeg. O’r awyr, ymddengys y ffordd fel toriad i mewn i’r llechwedd neu fel llinell wedi’i chodi.
Darganfuwyd nifer o gerrig milltir Rhufeinig ar hyd y ffordd hon dros y blynyddoedd. Rhydd un ohonynt y pellter i gaer Caerhun (Canovium ond wedi’i sillafu yn Kanovium ar y garreg filltir). Mae tair o’r cerrig milltir hyn erbyn hyn yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor.
Mynediad am Ddim
Dilynnwch y B5106 i'r de o Gonwy. Trowch i'r dde yn Nhal y Bont am Llanbedr y Cenin. Dilynnwch y ffordd i'r pen. Maes parcio yn Bwlch y Ddeufaen
Conwy - 8 milltir
Safle bws agosaf yw Groesfordd Rowen - 2 filltir.
Llwybr beicio Conwy i Fetws y Coed
Ffordd Rufeinig i'w gweld i'r gorllewin o'r maes parcio
Argymhellir eisigidiau cerdded. Map Arolwg Ordnans ei angen. Rhaid cadw cwn ar denyn.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 713718 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115