Cerddwch i’r caer uchel hon i fwynhau golygfeydd i bob cyfeiriad
Un o’r safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf cyflawn ym Mhrydain, sefydlwyd Tomen y Mur er mwyn sicrhau grym y Rhufeiniad yng Nghymru. Byddai caer ategol fel hyn, a adeiladwyd tua OC 77 gan y Llywodraethwr Agricola wedi ei ddylunio i amddiffyn rhwydwaith gyfathrebu a chyflenwadau’r Rhufeiniaid. Roedd wedi’i chysylltu â chaerau eraill fel Segontium, (Caernarfon) a Canovium (Caerhun) trwy’r system ffyrdd estynedig hon.
Adeiladwyd y gaer mewn dwy ran – cafodd y gaer goed wreiddiol ei lleihau a’i hailadeiladu mewn carreg yn tua OC 120. Fodd bynnag, dim ond tan OC 140 y meddiannwyd Tomen y Mur, cyfnod cymharol byr. Mae nodweddion gweledol yn cynnwys gweddillion amffitheatr, maes parêd, tŷ baddon a wal wedi’i hailadeiladu ynghyd ag atgynhyrchiad o un o’r meini canwriad a ganfuwyd ar y safle.
Mae’n anodd methu’r mwnt Normanaidd, sef y domen laswelltog yng nghanol y gaer. Mae’r enw Tomen y Mur yn golygu ‘tomen tu mewn i waliau, felly mae’r mwnt hefyd wedi rhoi ei enw i’r lleoliad. Yn 1114, fe ddaeth y Brenin Normanaidd Henry I a’i fyddin i’r ardal gyda’u harfau i oresgyn y Tywysog Gruffudd ap Cynan, arweinydd Cymru, a thywysogion Cymreig eraill.
Roedd gweddillion hen neuadd ganoloesol, o bosib llys oedd yn perthyn i’r tywysogion Cymreig, yn sefyll yn union tu allan i’r gaer. Mae’r neuadd hefyd yn lleoliad i un o chwedlau’r Mabinogi, sef hanes yr arweinydd Math fab Mathonwy a’i nai Lleu Llaw Gyffes, oedd wedi’i dynghedu.