Darganfyddwch yr hen fwynglawdd copr anghysbell hwn ar hyd ffordd droellog ym mynyddoedd Eryri
Er mai dim ond 24 blynedd y bu’n weithredol, mae’r mwynglawdd hwn ger Beddgelert wedi gadael nifer o drysorau diwydiannol i ni, megis yr olwyn ddŵr o 1841, adeiladau’r felin a sawl darn o beiriannau gan gynnwys tramffordd fer. Pris uchel copr oedd yr unig reswm y gellid cyfiawnhau’r costau a oedd yn gysylltiedig ag echdynnu a chludo’r mwyn copr o’r lle anghysbell hwn. Hyd at 1865, dyma’n union a wnaeth Cwmni Mwyngloddiau Copr a Phlwm Hafon y Llan, dan eu sefydlwr, Henry McKeller.
Unwaith y daethpwyd â’r mwyn i’r wyneb, roedd yn cael ei sortio neu ei drin ar y llawr naddu. Roedd hwn yn waith llafurus gan fod angen rhidyllu darnau o graig â llaw. Dewiswyd y gorau ohonynt i gael eu torri’n dalpiau o faint cerrig crwn, cyn iddynt gael eu malu'n bowdr mân.
Roedd y doreth o fwyn copr a geid yn yr ardal yn golygu nad oedd Cwm Erch yr unig leoliad iddo. Mae Mwynglawdd Lliwedd gerllaw ble y gellir gweld olwyn ddŵr arall. Ychydig sydd wedi’i wneud i ddiogelu’r safle hwn er bod nifer o olion diddorol yn dal ar ôl - i gael eu darganfod gan yr archeolegwr amatur anturus neu gerddwr llygadog.
A498 Beddgelert i'r Dwyrain o faes parcio Llwybr Watkin
Gorsaf Bangor - 20 milltir
A498 bws y Sherpa
Taith gerdded 2 filltir serth a garw oddi ar Lwybr Watkin yr Wyddfa -tros y pont droed yn ymyl y rhaeadr.
Mapiau OS ac eisgidiau / dillad cerdded yn angenrheidiol
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 634530 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115