Dewch i gael blas ar fywyd prysur yr harbwr yn Amgueddfa Forwrol Porthmadog
Crëwyd hanes Porthmadog bron iawn drwy ddamwain! Cwblhawyd y cob, sef arglawdd, yn 1811 er mwyn arbed tir amaethyddol rhag y môr. Roedd hyn yn cynnwys gwyro llwybr afon Glaslyn a chreu harbwr naturiol newydd. Roedd y basn yn safle delfrydol i adeiladu’r ceioedd cyntaf yn 1825, ac roedd y porthladd yn barod i weithio – gan dderbyn llechi o ardal Ffestiniog a mwyn copr o fwyngloddiau megis Cwm Ciprwth. Roedd y rheilffyrdd yn cario’r nwyddau drudfawr o’r chwareli a’r mwyngloddiau i gael eu hallforio i bedwar ban byd.
Adroddai yr Amgueddfa Forwrol stori am fywyd morol Porthmadog. Yn addas iawn, fe ddewch o hyd iddo yn y cwt llechi olaf ar yr harbwr, a arferai gael ei ddefnyddio i storio llechi o Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n llawn o wrthrychau diddorol, yn ymwneud â masnach, adeiladu llongau a bywyd ar y môr sy’n adrodd hanes y dref a’i phobl.
Dim ond llongau llai medrai gael mynediad i harbwr Porthmadog, ac felly roedd llongau hwylio, yn enwedig sgwneri pren yn dal i ddefnyddio’r harbwr mor ddiweddar â chyfnod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y sgwneri a adeiladwyd ym Mhorthmadog yn enwog am ddwy rinwedd werthfawr - eu gosgeiddrwydd wrth fynd drwy’r dŵr a’u cyflymder.
Yn ogystal ag allforio adnoddau naturiol lleol, roedd y porthladd yn mewnforio pob math o nwyddau, gan gynnwys cod hallt, coed, ŷd a ffosffadau. Roedd y fasnach hon yn sefydlu cysylltiadau â lleoedd megis Newfoundland, y Caribî a thu hwnt. Roedd llongau’n dod i’r porthladd hyd at yr 1980au gan gynnwys SS Florence Cooke, oedd yn gwasanaethu’r gweithfeydd ffrwydradau gerllaw ym Mhenrhyndeudraeth. Daethpwyd ag offer trwm i’r harbwr hefyd ar gyfer adeiladu gorsafoedd pŵer.
Ebrill i hanner tymor Hydref
Drws nesaf i Orsaf Rheilffordd Ffestiniog ar Stryd Fawr Porthmadog
Porthmadog - 1/2 milltir
Bws yn stopio ar y Stryd Fawr ger Gorsaf Rheilffordd Ffestiniog
Ar Lwybr Rhif 8 NCN
Parcio ar Heol y Parc
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 569384 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124