Perchnogion Dinorwig, yr ail chwarel lechi fwyaf yn y byd
Mae’r hen neuadd Duduraidd ym Maenol neu’r Faenol, yn dal i gael ei adnabod heddiw fel Hen Neuadd y Faenol. Mae ei hanes yn cychwyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg pan brynodd Thomas Williams y tir gan esgobion Bangor. Fe wnaeth Thomas Williams barhau i gyfuno a phrynu tiroedd, a dywedid pan fu farw G.W.D. Assheton Smith, y perchennog, yn 1904 ei bod yn bosibl iddo deithio o’r Faenol i ben yr Wyddfa yr holl ffordd ar ei dir ei hun.
Adeiladwyd y tŷ Sioraidd newydd, a welwn o flaen yr Hen Neuadd heddiw, gan Thomas Assheton Smith (yr hynaf) a etifeddodd y stad yn 1774. Gwaith y tad a’r mab, Robert George Duff a G.W. Duff Assheton Smith, yw’r wal sydd o amgylch stad y Faenol, a gychwynnwyd gan Robert yn 1863.
Datblygodd Chwarel Dinorwig o gyfnod Thomas Assheton Smith, ac yn ei hanterth yn niwedd y 19eg ganrif, roedd yn cynhyrchu 100,000 tunnell fetrig o lechi y flwyddyn ac yn cyflogi 3,000 o ddynion.
Bu farw G.W.D. Assheton Smith yn 1904 ac ef oedd y cyntaf o’r teulu i’w gladdu yn y Faenol. Y nesaf i etifeddu oedd Charles Garden Assheton Smith, oedd yn gwario arian fel dŵr ar bleserau bywyd. Cafodd Charles lwyddiant gyda’i geffylau rasio, gan ennill tair ras ‘Grand National’. Roedd hefyd yn cadw dewis egsotig o anifeiliaid ar y stad.
Yn 1980 daeth stad y Faenol i ben fel endid ar ôl bron i 450 o flynyddoedd, gyda marwolaeth Charles Michael Robert Vivian Duff.