Teithiwch mewn steil i’r copa uchaf yng Nghymru
Rhaid i hon fod ymhlith y teithiau trên mwyaf ysbrydoledig yn y byd o ran prydferthwch llwyr y tirlun. Ac o ychwanegu at y ffaith bod y rheilffordd hon yn cynrychioli peirianneg ryfeddol oes Fictoria, byddwch yn cael rhywbeth arbennig iawn.
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o reilffyrdd stêm y rhan hon o’r byd, ni chafodd Rheilffordd yr Wyddfa erioed ei chynllunio i gludo llechi – nac unrhyw nwyddau eraill o ran hynny. Fe’i hadeiladwyd ar gyfer twristiaid yn unig, er mwyn y rhai a ddymunai gael eu cludo am 4.7 milltir o Lanberis i gopa 3560 tr. yr Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Defnyddia’r rheilffordd system rac a phiniwn o fath a ddyfeisiwyd yn y Swistir ac a freinlenwyd gan y peiriannydd Dr Roman Abt. Er mwyn sicrhau bod y peiriant yn gallu dringo’r llethrau serth, mae piniwn â dannedd sy’n troi wedi’i osod o dan y trên ac yn gafael am y gledren sydd â rac ddwbl arni. Mae’r cerbyd yn cael ei wthio yn hytrach na’i dynnu gan y peiriant ac am resymau diogelwch ni fydd y ddau byth yn gypledig. Mae brêc ei hunan ar y cerbyd i’w ddefnyddio mewn argyfwng.
Agorwyd Rheilffordd yr Wyddfa yn swyddogol ar 6 Ebrill 1896 ond bu trychineb pan aeth y trên oddi ar y cledrau wrth ddod i lawr y mynydd ac o ganlyniad lladdwyd un o’r teithwyr. Ar ôl i fecanwaith diogelwch newydd gael ei osod, ail-agorwyd y rheilffordd ym mis Ebrill 1897 ac mae wedi danfon pobl i fyny ac i lawr y mynydd yn ddiogel ers hynny. Agorwyd canolfan ymwelwyr Hafod Eryri, a adeiladwyd o graig ithfaen, yn 2009 ac mae’n le delfrydol i aros i weld y golygfeydd a chael lluniaeth tra ar y copa.
Yn ddibynnol ar y tywydd. Am restr llawn o brisiau ac oriau agor ewch i'r wefan
Yn Llanberis ar yr A4086
Bangor - 8 milltir
Gorsaf bws yn ymyl y Rheilffordd
Cwn tywys yn unig. Mae mynediad anabl i'r tren.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 585 602 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115