Bryngaer hynafol a chysegrfa iachusol
Mae’r fryngaer nodedig hon wedi’i lleoli ar lwyfandir calchfaen eang uwchben pentref Llanddulas ac yn agos at y ffordd Rufeinig i Canovium (Caerhun heddiw). Mae’r tir caeedig yn ymestyn bron i 10 hectar ac mae wedi’i amgylchynu ar dair ochr gan lethrau serth, caregog, geirwon sy’n ffurfio amddiffynfa naturiol. Ar yr ochr ogleddol, mae rhes ddwbl o gloddiau a ffosydd sy’n cwblhau’r amddiffynfa.
Er yr ystyrir bod y safle’n llawer hŷn (yn dyddio o oddeutu 800 CC), mae’r holl olion a ddarganfuwyd yma yn arddangos presenoldeb milwrol Rhufeinig. Darganfuwyd ‘pilum’ haearn, math o bicell Rufeinig wedi’i phlannu yn y ddaear, mae’n bosib oherwydd arferid defnyddio’r safle fel man ymarfer. Yn ogystal, darganfuwyd bwcl gwregys coeth y tybir sy’n dyddio o’r cyfnod Rhufeinig hwyr. Yn anarferol i’r rhan hon o Gymru, ystyrir bod y bwcl o’r math sy’n gysylltiedig â llengoedd Germanig a gyflogwyd gan Ymerodraeth Rhufain i warchod arfordiroedd de Prydain. Erbyn hyn mae yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Yn fwy hynod fyth, darganfuwyd nifer o gerfluniau bach o gŵn, rhai tebyg iawn i rai eraill a ddarganfuwyd yn y Deml Rufeinig yn Lydney yn aber yr Afon Hafren. Awgryma’r rhain yr arferai Pen y Corddyn efallai fod yn safle cysegrfa iachusol.
Isffordd rhwng Rhyd y Foel ac Abergele. Gweler y safle ar dop y bryn o'r lôn.
Abergele - 2 filltir
Safle bws agosaf yw Glen View ar Ffordd Rhyd y Foel
Beicio ar y lôn fawr
Tir preifat. Dim llwybr troed.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 915764 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 116