Mae Pier Llandudno wedi bod yn diddori ymwelwyr ers 1878 wrth iddo ymestyn 2295 o droedfeddi i’r môr.
Adeiladwyd y pier ar adeg pan oedd rhaid cael pierau i ddenu ymwelwyr ar eu gwyliau i gyrchfannau glan môr. Ers hynny, anfarwolwyd y pier mewn ffilm o 1952, The Card, gydag Alec Guinness a Petula Clark, a oedd yn seiliedig ar nofel o’r un enw gan Arnold Bennett.
Agorwyd y strwythur, a ddyluniwyd gan Charles Henry Driver, ym mis Awst 1877, gan gymryd lle pier byrrach a oedd yna’n flaenorol ac a oedd yn cael ei gynnal gan 16 o bostiau pren. Caiff dyluniad Driver ei gefnogi gan golofnau haearn a wnaed gan ffowndri Elmbank yn Glasgow ac a adeiladwyd gan Walter McFarlane a oedd yn hanu o’r un ddinas. Mae’r pier yn anghyffredin am fod dau fynediad iddo, o boptu gwesty’r Grand Hotel. Fe’r disgrifiwyd fel ‘palas y Maharajah’ gyda’i waith haearn addurnol manwl. Pafiliwn y Pier, a agorwyd yn 1886, oedd y lle i fynd i weld perfformiadau Cerddorfa Jules Rivière, a oedd yn cael ei harwain gan y cerddor Ffrengig enwog.
Cwmni St George’s Harbour and Railway Company wnaeth agor y pier blaenorol yn 1858, ond gwnaed difrod mawr iddo mewn storm y flwyddyn ganlynol. Sicrhaodd Cwmni Pier Llandudno ei fod yn gwneud gwelliannau i’r pier newydd dros y blynyddoedd. Yn 1884, adeiladwyd estyniad tua’r tir, ac yna glanfa newydd yn 1891. Yn ystod yr ugeinfed ganrif roedd angen adeiladu glanfa newydd ar gyfer stemars Ynys Manaw a oedd yn cludo ymwelwyr i Landudno, ac fe ailadeiladwyd y lanfa o goncret a dur yn 1969. Yn anffodus, difrodwyd pafiliwn y pier gan dân yn 1994, ac ni chafodd ei ailadeiladu.