Gorau Arf, Ymarfer
Mae’r pump gwersyll ymarfer yn Nol Ddinas, sy’n dyddio’n ôl i’r ganrif 1af a’r 2il ganrif OC, ymysg y rhai sydd wedi’u cadw orau yn Ewrop. Eu pwrpas ar un adeg oedd gwasanaethu’r Gaer Rufeinig yn Nhomen y Mur. Ychydig iawn y gellir ei weld ar lefel y ddaear yn y lleoliad sydd ger Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’n haws gweld y cloddweithiau hynafol pan fo’r ddaear yn sych.
Roedd gwersylloedd ymarfer yn rhan annatod o gyfundrefn hyfforddi milwyr y Fyddin Ymerodrol, a byddant yn cael eu hadeiladau’n agos at y gaer. Ceir manylion y safonau uchel a ddisgwylid gan filwyr yr ymerodraeth Rufeinig yn y llawlyfrau hyfforddi sy’n dyddio o’r cyfnod. Roedd y gwersylloedd ymarfer yn fersiynau llai o’r caerau llawn-maint, gyda waliau a phyrth amddiffynnol cymesur. Eu diben oedd i wella ffitrwydd, ac i ddysgu sgiliau gwerthfawr wrth adeiladu caerau y gellid eu hailddefnyddio ar y maes.
Disgwylir i’r milwyr adeiladu strwythurau amddiffynnol yn gyflym ac yn effeithiol, ar bob math o dir. Byddai uwch swyddogion yn archwilio’r gwersylloedd gorffenedig i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig.
Mae maint y gwersylloedd Dol Ddinas yn amrywio. Mae tri ohonynt oddeutu 44 metr sgwâr, a’r ddau arall ychydig yn llai.
Yn Nhrawsfynydd troi am y Bala A4212. Ar ôl 1.2 milltir, cymerwch y tro cyntaf i'r chwith am Bwlch Gwyn Uchaf.
Porthmadog - 14 milltir
Gorsaf bws Trawsfynydd - 2 filltir
Llwybr Rhanbarthol Rhif 13
Dilynwch y trac o Bwlch Gwyn Uchaf i fferm Dolddinas.
Taith gerdded milltir dros dir gwlyb. Esgidiau cerdded a map yn angenrheidiol. Cadw cwn ar dennyn. Bydd angen caniatâd i barcio.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 735378 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: OS 124