Cynhyrchu teils Rhufeinig yng nghanol Eryri
Mae olion y ddwy odyn teils Rhufeinig hyn yn rhoi darlun hynod i ni o weithgarwch diwydiannol yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid yng Nghymru rhwng y ganrif gyntaf a’r bedwaredd ganrif OC. Mae Pen y Stryd wrth ymyl tref Trawsfynydd yng nghanol mynyddoedd Rhinog Eryri. Mae’r safle yn agos i gyflenwadau parod o ddŵr a chlai, sef y cynhwysion sydd eu hangen i gynhyrchu teils seramig.
Mae’r odyn orllewinol yn dwmpath hanner crwn gyda phant, a oedd yn wreiddiol yn agoriad neu’n geg i’r ffwrnais ei hun. Gerllaw, ceir twmpath llai a dyma’r hen domen wastraff ble y taflwyd teils a brics a oedd wedi torri neu wedi difetha. Nid yw’r odyn ddwyreiniol wedi cadw cystal, ac mae hon mewn cilfach yn uwch i fyny’r nant.
Credir bod yr odynau ar un adeg wedi bod yn cyflenwi caerau Rhufeinig Tomen y Mur a Brithdir gerllaw. Mae dwy ffos ar naill ochr i drac wedi’i godi yn marcio llwybr gwreiddiol y ffordd Rufeinig wreiddiol a oedd yn cysylltu’r ddau safle.
O Trawsfynydd, troi i'r chwith yn Bronaber am Rhiw Goch. Dilyn y ffordd am 1 milltir i'r cyffordd nesaf
Porthmadog - 15 milltir
Gorsaf bws Bronaber - 1 milltir
Ar y gyffordd i'r isffordd, mae'r safle 100m uwchben y codiad i dde'r nant
Safle 100m o'r ffordd. Esgidiau cerdded eu hangen. Cadw cwn ar dennyn. Map ei angen. Parcio yn ymyl y lôn yn unig.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 726319 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124