Mwy o hanesion o orffennol mytholegol Gwynedd
Mae gan y safle hwn gysylltiad clos â’r straeon o bedwaredd cainc y Mabinogi. Mae’r stori’n dechrau gyda Lleu Llaw Gyffes yn cynllwynio i ddial wedi iddo oroesi ymgais ei wraig Blodeuwedd a’i chariad Gronw Pebr, i’w ladd. Wrth i’r gelynion ddod wyneb yn wyneb ar y naill ochr i Afon Cynfael, mae Gronw Pebr yn gofyn am gael sefyll y tu ôl i garreg wastad fawr i’w amddiffyn. Mae Lleu Llaw Gyffes yn taflu ei waywffon tuag ato ac mae’n torri drwy’r garreg a chorff Gronw Pebr ac yn ei ladd yn y fan a’r lle.
Yn 1934, canfu Frank Ward garreg wastad fawr gyda thwll drwyddi ar wely Afon Cynfael. Gellir gweld y garreg heddiw mewn fferm o’r enw Bryn Saeth. Mae fferm arall gerllaw wedi’i henwi’n Llech Goronwy – ffordd arall o sillafu’r enw Gronw.
Llyn y Morwynion yw tarddiad Afon Cynfael. Yn y Mabinogi, mae Gwydion y Dewin a Gwŷr Harlech yn erlid Blodeuwedd a’i morwynion llaw i fyny i’r mynyddoedd. Wrth iddynt edrych yn ôl tuag at eu herlidwyr, nid ydynt yn sylwi ar Lyn y Morwynion ac mae pob un yn boddi, heblaw am Blodeuwedd. Trawsnewidir Blodeuwedd yn dylluan fel cosb am fod yn anffyddlon.
B4407 a B4391 yn rhedeg i'r dwyrain o Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog - 3 milltir, Porthmadog - 10 milltir
Ffestiniog - 3 milltir
Argymhellir esgidiau cerdded. Rhaid cadw cwn ar dennyn. Llwybr yn arwain at Llyn Morwynion.
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn - Llyn y Morwynion: SH 735425 Arrow Stone (Llech Gronw): SH714407 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124