Sant Crwst o’r ‘Hen Ogledd’
Mae traddodiad yn cysylltu Sant Crwst gyda’r Hen Ogledd. Tua’r flwyddyn 540 cafodd ei wahodd gan y brenin Cymreig, Maelgwyn Gwynedd i sefydlu clas, sy’n debyg i fynachdy, yn Llanrwst. Credir fod y clas yma yng Nghae Llan, ger ble mae Capel Presbyteraidd Seion heddiw.
Ail-adeiladwyd Eglwys Sant Crwst yn y 12fed ganrif ar dir oedd yn eiddo i Rhun ap Nefydd Hardd i wneud yn iawn am lofruddiaeth tywysog Idwal, mab Owain Gwynedd, gan ei dad. Dinistriwyd yr adeilad gwreiddiol yn llwyr yn y 15fed ganrif gan Iarll Penfro oedd ar ochr yr Iorciaid, wrth dalu yn ôl am anrhaith Dinbych. Mae’r adeilad rhestredig Gradd I presennol yn dyddio o tua’r adeg yma. Cafodd ei adeiladu mewn dull perpendicwlar o gerrig rwbel a chalchfaen nadd ac mae gan yr eglwys gysylltiadau hir gyda theulu bonheddig Wynn o Wydir a chladdwyd llawer ohonynt yma. Ceir yma nodweddion pensaernïol nodedig fel croglen o’r 15fed ganrif wedi ei cherfio’n goeth - a ystyrir yn un o’r rhai gorau yng Nghymru a bedyddfaen gyda ffurfiau cymhleth organig.
Ychwanegwyd Capel Gwydir at yr eglwys yn 1633-34 gan Richard Wynn, ac mae mwyafrif y gosodiadau a’r gosodion mewnol yn rhai gwreiddiol. Yma ceir arch garreg o’r 13eg ganrif a ddywedir oedd yn eiddo i Lywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yn 1884, bu cwmni o benseiri, Paley ac Austin o Lancaster, yn adnewyddu’r eglwys yn helaeth. Ychwanegwyd ystlys gogleddol a newidwyd sawl nodwedd wreiddiol.
9.30am-5.00pm
Mynediad am Ddim
Mae Llanwrst ar yr A470 rhwng Cyffordd Llandudno a Betws y Coed. Mae'r Eglwys oddi ar Y Sgwar tuag at yr afon
Llanrwst - 1/2 milltir
Bysiau yn stopio yn y pentref
Ar lwybr beicio Dyffryn Conwy
O faes parcio Glasdir cerddwch ar hyd yr afon tuag at yr eglwys
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 797616 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 115,116