Gweddillion trawiadol siambr gladdu, wedi ei adeiladu gan bobl Neolithig oedd yn ffermio’r tir tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl
Mae’r gweddillion hyn o siambr gladdu Neolithig yn cynnwys tair llechfaen unionsyth sy’n ffurfio siâp ‘H’ afreolaidd. Mae’r tair carreg yn sefyll i uchder o tua 7 troedfedd uwchlaw’r ddaear, ac mae’n debyg eu bod yn weddillion cromlech borth (math o siambr gladdu). Mae holl weddillion o amgylch y garnedd wedi eu symud.
Tua 25 llathen i’r de ddwyrain o’r siambr mae’r graig yn brigo’n naturiol gyda ‘cafn nodau’ ar wyneb y graig. Mae’r cerfiadau yma ar y graig yn dyddio o ddiwedd yr Oes Neolithig / dechrau’r Oes Efydd. Mae cafn nodau hefyd yn ymddangos ar gapfaen siambr gladdu Bachwen, Clynnog ac ar un o’r cerrig yn Nyffryn Ardudwy.
Bydd mynd am dro drwy’r ardal yn eich arwain drwy bentrefi arfordirol bach Borth y Gest a Morfa Bychan, a threfi cyfagos Criccieth, gyda’i gastell a adeiladwyd gan dywysogion Gwynedd, a harbwr llechi Porthmadog. Datblygwyd yr harbwr yn y 19 ganrif i allforio llechi o chwareli Ffestiniog.
Isffordd oddi ar yr A497 rhwng Porthmadog a Cricieth.
Porthmadog - 2 filltir
Gorsaf bws Borth y Gest
Map yn angenrheidiol. Llwybrau troed rhwng Borth y Gest a'r A497
Rhif Cyfeirnod Grid Llawn: SH 543384 Mapiau Landranger yr Arolwg Ordnans: 124