Ymwelwch ag un o eglwysi canoloesol gorau Llŷn
Mae Eglwys Llangwnadl, ar arfordir gogleddol Llŷn, yn enghraifft nodedig o eglwys ganoloesol. Daeth safle beddrod Sant Gwynhoedl yn fan gorffwys pwysig ar hyd Taith Pererinion Gogledd Cymru i Ynys Enlli, ac mae’n debyg fod hyn yn esbonio pam y cafodd yr eglwys ei ehangu yn yr unfed ganrif ar bymtheg wrth i’w phoblogrwydd gynyddu.
Heddiw mae’r eglwys yn sefyll ar ei phen ei hun ger nant ar ochr ddwyreiniol plwyf Llangwnadl. Mae’n lle heddychlon a thawel i ymweld ag ef. Roedd Sant Gwynhoedl yn un o seintiau cynharaf Llŷn, ac mae’r garreg fedd a godwyd i nodi ei feddrod i’w gweld heddiw ym Mhlas Glyn y Weddw, oriel gelf hynaf Cymru, gerllaw yn Llanbedrog.
Y tu mewn i’r eglwys, rhyfeddwch ar ffurf yr ystlys driphlyg a’r pendist, a graddfa fawr yr adeilad. Mae’r dyddiad 1520 wedi ei gerfio ar un o fwâu’r pendist gogleddol, ac mae’r arysgrif ‘S GWYNHOEDL IACET HIC’ hefyd i’w weld, sy’n dweud wrthym fod ‘Gwynhoedl wedi’i gladdu yma’. Yn y mur deheuol mae maen mawr gyda chroes gerfiedig sy’n dyddio’n ôl i’r 7fed - 9fed ganrif; darganfuwyd wrth adnewyddu’r eglwys yn ystod yr 20fed ganrif.
Arwydd arall o’r cysylltiad â’r pererinion yw enw’r cae nesaf at yr eglwys ‘Cae Eisteddfa’. Mae hyn yn awgrymu bod y cae yn draddodiadol yn fan gorffwys i bererinion.
Mae Llangwnadl ar lwybr y pererinion i Enlli, wedi ei lleoli rhwng Clynnog Fawr ac Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron. Gellir cyfuno ymweliad yma â safleoedd eraill sydd o fewn cyrraedd hawdd ar y llwybr.
O Tudweiliog cymerwch y B4417 tuag at Aberdaron. Llangwnadl wedi ei arwyddo.
Pwllheli - 14 1/2 milltir
Safle bws agosaf yw Fferm Plas Llangwnnadl 0.5 milltir o'r B4417
Eglwys ar ochr y ffordd sy'n arwain i Llangwnnadl o'r B4417
Full Figure Grid Reference: SH208333 OS Landranger map sheet: OS 123